大象传媒

Galw'r gweinidog iechyd gerbron pwyllgor cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Lesley Griffiths AC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd

Fe fydd Gweinidog Iechyd yn wynebu un o bwyllgorau'r cynulliad ddydd Mercher nesaf.

Y Pwyllgor Iechyd sy' wedi penderfynu galw Lesley Griffiths er mwyn rhoi cyfle iddi esbonio'r cysylltiadau rhwng ei gweision sifil ac awdur adroddiad am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

Cytunodd y gwrthbleidiau gyflwyno cynnig diffyg hyder wedi ffrae am annibyniaeth adroddiad Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg.

Eisoes mae'r gweinidog wedi gwadu i Lywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar yr adroddiad.

Dim gorfodaeth

Dywedodd hi na welodd hi'r adroddiad tan y fersiwn derfynol a mynnodd nad oedd ei swyddogion wedi dylanwadu arno.

Hyd yn oed os yw'r cynnig diffyg hyder yn llwyddo, does dim gorfodaeth ar y Gweinidog i ymddiswyddo nac ar y Prif Weinidog i'w diswyddo.

Mae'r gwrthbleidiau yn ystyried yr ymddangosiad o flaen y pwyllgor fel cyfle olaf i'r gweinidog esbonio pam iddi honni bod adroddiad Yr Athro Longley yn un annibynnol ar 么l iddo drafod y cynnwys mewn sgwrs e-bost gyda gweision sifil yn ei hadran.

Os na fydd y gwrthbleidiau yn fodlon ar ei hesboniad fe fyddan nhw'n bwrw ymlaen 芒'u pleidlais diffyg hyder.

'Byrbwyll'

Union eiriad y cynnig diffyg hyder yw: "Does gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddim hyder yn y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol."

Mae ymateb y gwrthbleidiau wedi ei feirniadu gan y cyn-aelod Cynulliad Ceidwadol a chyn-lefarydd iechyd ei blaid, Jonathan Morgan.

Dywedodd fod y gwrthbleidiau wedi bod "yn fyrbwyll yn eu tactegau.

"Roedd 'na gwestiynau gan y gweinidog i'w hateb ond mae hi'n llawer rhy gynnar i alw am ei hymddiswyddiad," meddai.

'Ddim yn anarferol'

"Dydi hi ddim yn anarferol i swyddogion y llywodraeth sicrhau gogwydd arbennig ar adroddiadau.

"Dydi cynnwys yr e-byst - rhwng uwch swyddogion a'r awdur - ddim yn anarferol chwaith.

"Mae swyddogion yno i gynnig gwybodaeth.

"Dydi hyn ddim yn golygu nad yw'r adroddiad yn llai annibynnol ond fe fyddwn yn siomedig os nad yw swyddogion yn ymdrechu i ateb ein sylwadau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol