Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cysylltiad Iolo Morganwg 芒'r Fro a Gorsedd Y Beirdd
Enw sy'n cael ei gysylltu 芒 Bro Morgannwg a'r Eisteddfod Genedlaethol yw Edward Williams.
Ond mae'n fwy adnabyddus o dan ei enw barddol, Iolo Morgannwg.
Caiff ei gyfri fel yr un a greodd Gorsedd y Beirdd.
Un o bentre' Trefflemin oedd o ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd Saesneg ei hiaith.
O ran ei alwedigaeth a'i grefft, roedd yn saer maen a fu'n gweithio ar hyd a lled Cymru ac yn Llundain.
Bu hefyd yn cadw siop lyfrau yn Y Bont-faen ac yn dipyn o gymeriad.
Radicalydd
Yn Llundain daeth i gysylltiad 芒 Chymdeithas y Gwyneddigion a dechreuodd droi mewn cylchoedd diwylliannol a radical wedi iddo ymddiddori yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i hanes cyn gadael Cymru.
Yn ogystal 芒 bod yn "dad Gorsedd Y Beirdd" roedd hefyd yn un o sefydlwyr mudiad yr Undodiaid yng Nghymru.
Roedd yn radicalydd gwleidyddol a bu'n cefnogi'r Chwyldro Ffrengig.
Roedd hefyd yn heddychwr, yn hynafiaethydd, yn emynydd a bardd telynegol oedd yn cyfeirio at ei hun fel 'The Bard of Liberty'.
Ond roedd o hefyd yn freuddwydiwr ac yn ffugiwr.
Yn gaeth i'r cyffur laudanum mae'n debyg i hynny gael effaith ar ei feddwl.
Er i'r seremoni gyntaf gael ei chynnal yn 1792, mae'r beirdd, y llenorion a'r cerddorion yn dal i ymgasglu'n flynyddol.
Er nad oes sicrwydd pam iddo fynd ati i sefydlu'r Orsedd mae'n bosib meddal am resymau.
Cafodd ei swyno gan ramantiaeth Derwyddiaeth y 18fed Ganrif ac roedd yn credu fod beirdd Cymru wedi etifeddu r么l y derwyddon Celtaidd.
Mae lle i gredu hefyd ei fod yn genfigennus o hyder y Gwyneddigion mai yng Ngwynedd yr oedd barddoniaeth a thraddodiadau Cymru ar eu puraf.
厂别谤别尘辞苍茂补耻
Roedd am sicrhau mai ym Morgannwg yn unig yr oedd traddodiadau wedi goroesi.
Fo oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r defodau a geir a hynny wedi eu selio ar weithgareddau'r Derwyddon Celtaidd.
Cafodd y seremoni gyntaf ei chynnal ar Fehefin 21 1792 ym Mryn y Briallu, Llundain.
Gosodwyd cylch o gerrig m芒n ar y maes a thu fewn i'r cylch bu rhai o gyfeillion Iolo yn ei gynorthwyo gyda'r defodau.
Roedd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru ar Fryn Owain ar gyrion Y Bont-faen ym Mro Morgannwg a hynny yn 1795.
Bu'n rhaid aros am dros 20 mlynedd cyn i Iolo gynnal seremoni'r Orsedd am y tro cyntaf mewn Eisteddfod.
Roedd honno yng Ngwesty'r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn 1819.
Ers sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1860 mae Gorsedd y Beirdd wedi bod yn gysylltiedig 芒'r Eisteddfod.
Yn ddiweddarach mae Gorsedd y Beirdd wedi ei sefydlu yn Llydaw (1900) ac yng Nghernyw (1928).
Fe ail-sefydlwyd Gorsedd y Beirdd yn Y Wladfa, Patagonia yn 2001.
Ac mae enw Iolo Morgannwg yn parhau yn yr ardal drwy'r ysgol gynradd yn Y Bont-faen.