Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Glaw a llifogydd: Rhybudd ucha'
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren, y rhybudd uchaf, am law trwm yn y rhan fwyaf o Bowys a gogledd Sir Fynwy ddydd Gwener.
Fe allai hyd hyd at 30mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr iawn a gallai hyn arwain at lifogydd lleol oherwydd draeniau'n gorlifo, a d诺r ar wyneb y ffyrdd.
Hefyd mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law ar gyfer dydd Gwener.
Mae hwn yn effeithio ar siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir F么n, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Y Fflint ac Ynys M么n.
Monitro
Dywedodd yr asiantaeth eu bod yn monitro'r tywydd a lefelau afonydd ac y bydden nhw'n cyhoeddi rhybuddion mwy penodol fel bo'r angen.
Eisoes mae swyddogion yr asiantaeth wedi bod yn gwirio'r amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Daeth rhybudd hefyd i bobl beidio 芒 cherdded na gyrru drwy dd诺r llifogydd, gan fod risg i iechyd.
Peryglus
Bydd amgylchiadau gyrru yn beryglus mewn sawl man ddydd Gwener.
Cyngor yr asiantaeth yw y dylai pobl wrando ar ddarllediadau tywydd am y wybodaeth ddiweddaraf yn eu hardaloedd nhw.
Gall pobl hefyd ymweld 芒 am wybodaeth neu ffonio'r llinell gymorth arbennig ar 0845 988 1188.