大象传媒

Arolwg: Cefnogi datganoli trethu

  • Cyhoeddwyd
Senedd buildingFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cefnogaeth yn yr arolwg barn am ddatganoli pwerau trethu i Lywodraeth Cymru

Mae bron dau draean o bobl Cymru yn credu y dylai lefel y dreth incwm y maen nhw'n talu gael ei bennu yng Nghymru, yn 么l arolwg barn.

Cafodd yr arolwg ei wneud ar ran Comisiwn Silk, sy'n ystyried y ddadl dros ddatganoli pellach.

Roedd 64% o'r rhai a holwyd yn dweud y dylai pwerau trethu gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

Ond roedd cadeirydd y comisiwn, Paul Silk, yn dweud bod yr adroddiad yn dangos "dealltwriaeth gyfyng" o faterion trethi.

Galw refferendwm

Does gan Llywodraeth Cymru ddim pwerau i godi trethi, ac mae'n dibynnu ar grant blynyddol gan y Trysorlys yn Llundain am ei chyllideb.

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw am rai pwerau trethu - treth stamp a threth teithwyr awyrennau er enghraifft.

Roedd 81% yn yr arolwg yn cytuno gyda Mr Jones na ddylai'r pwerau i bennu a chasglu treth incwm gael eu datganoli heb refferendwm.

Ond os fyddai trethi yn uwch yng Nghymru, yna dim ond 28% oedd yn dal i gredu y dylid datganoli grym drostyn nhw.

Mae Mr Jones am i'w lywodraeth gael y gallu i fenthyg arian er mwyn medru buddsoddi mewn prosiectau mawr.

Roedd cefnogaeth i hyn hefyd yn yr arolwg barn, gyda 80% yn cytuno gyda'r gosodiad.

Roedd y cwmni a wnaeth yr arolwg, ICM, yn dweud bod tystiolaeth nad oedd pobl yn deall y trefniadau trethi presennol yn llawn, ond mai'r darlun oedd yn datblygu oedd y byddai'r cyhoedd, petai rhaid iddyn nhw ddewis, yn dewis datganoli pwerau trethu.

Roedd 72% yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i geisio dylanwadu ar ymddygiad pobl drwy godi tal am fagiau plastig untro er enghraifft.

Argymhellion

Cafodd Comisiwn Silk ei sefydlu gan lywodraeth y DU er mwyn ystyried setliad datganoli ac ariannu Cymru.

Bydd canlyniadau cyntaf y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, gydag ail adroddiad i'w gyflwyno erbyn gwanwyn 2014.

Dywedodd Mr Silk: "Mae ein cylch gwaith yn glir iawn - rhaid i ni fedru cyflwyno pecyn o argymhellion sy'n debyg o fedru cael cefnogaeth yn eang.

"Er bod yr arolwg barn yn dangos cefnogaeth glir am bwerau trethu a benthyg arian, rhaid i ni fel comisiwn fod yn ofalus i ystyried y pryderon sy'n dod i'r amlwg hefyd.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad bod dealltwriaeth gyfyng o faterion trethu, ac o'r cychwyn rydym wedi ceisio ateb y pryder yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol