大象传媒

Pentrefwyr i dalu am amddiffynfeydd wedi'r llifogydd?

  • Cyhoeddwyd
Parc Carafannau Riverside ger Llandre, Aberystwyth gafodd ei effeithio gan y llifogydd ym mis MehefinFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Parc Carafannau Riverside ger Llandre, Aberystwyth ei effeithio gan y llifogydd ym mis Mehefin

Gallai cymunedau sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd yng Ngheredigion orfod cyfrannu tuag at amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn 么l adroddiad.

Dioddefodd nifer o gymunedau gogledd Ceredigion lifogydd difrifol ym mis Mehefin.

Fe wnaeth y llifogydd effeithio ar dros 1,000 o bobl gan achosi difrod sylweddol i dai ac eiddo.

Yn 么l adroddiad Cyngor Ceredigion, cafodd y llifogydd eu hachosi gan law trwm yn syrthio ar dir soeglyd am gyfnod hir.

Mae ap锚l ar gyfer y rhai wnaeth ddioddef o'r llifogydd wedi codi 拢80,000 hyd yn hyn.

Roedd Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-Bont, Capel Bangor, Llanbadarn Fawr a Llandre ymysg yr ardaloedd gafodd eu heffeithio gan y glaw trwm wnaeth ddisgyn rhwng Mehefin 8 a 9 eleni.

Clywodd rhai o'r teuluoedd na fydden nhw'n gallu dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.

'Digynsail'

Cafodd busnesau, yn enwedig y rhai oedd yn ymwneud 芒'r diwydiant twristiaeth, eu hysbysu y byddan nhw'n cael cynnig cymorth gan y Llywodraeth.

Bydd adroddiad yr ymchwiliad llifogydd gan y cyngor sir yn cael eu cyflwyno i gabinet yr awdurdod lleol ddydd Mawrth.

Dywed yr adroddiad fod maint y llifogydd yn "ddigynsail".

Ychwanegodd yr adroddiad fod 126 eiddo a 200 o garafannau mewn parciau gwyliau wedi eu difrodi gan y llifogydd.

Ond yn 么l yr adroddiad, fe fyddai atebion parhaol i lifogydd yn yr ardal yn gostus.

"Ni all cynlluniau o'r fath gael eu hariannu gan awdurdodau sy'n rheoli risg (sy'n cynnwys cynghorau ac Asiantaeth yr Amgylchedd)," meddai'r adroddiad.

"Pe bai cyllid cyfyngedig ar gael, bydd gan y gymuned leol gyfle i godi gweddill yr arian gan alluogi cynllun lliniaru llifogydd i fynd yn ei flaen.

Yn 么l yr adroddiad y gallai awdurdodau sy'n rheoli risg cyfuno eu cyllid ar gyfer cynlluniau lliniaru d诺r wyneb.

"Bydd hyn yn cael ei drafod, ond byddai'n rhaid i'r safleoedd gael eu hystyried i fod o flaenoriaeth uchel i bob un o'r awdurdodau sy'n rheoli risg i'w wneud yn opsiynau dichonadwy."

Dywed y cyngor sir fod dros 190 mm (19cm) o law wedi syrthio yng nghronfa Nant-y-moch ger Ponterwyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol