Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder i d卯m p锚l-droed Cymru wedi anaf coes i Craig Bellamy
Mae 'na amheuaeth a fydd Craig Bellamy ar gael ar gyfer gemau cyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi dweud na fydd yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg a Serbia oherwydd anaf i'w goes.
Doedd Bellamy ddim yn rhan o garfan Caerdydd ddydd Sadwrn yn erbyn Bristol City.
Dywedodd y clwb bod yr anaf yn waeth na'r disgwyl.
"Mae ganddo anaf i'w goes ac fe fydd allan o'r g锚m am gwpl o wythnosau," meddai Mackay.
Fe fyddai ei absenoldeb o'r t卯m cenedlaethol yn ergyd i reolwr Cymru, Chris Coleman.
Fe fydd Cymru yn herio Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 7 cyn teithio i Serbia i'w wynebu yn Stadiwm Novi Sad yn Karadjordje ar Fedi 11.
Y tair gwlad arall yn yr un gr诺p 芒 Chymru yw Yr Alban, Croatia a Macedonia.