Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llifogydd: Teuluoedd Ceredigion yn mynd adre
Mae rhai o'r bobl a gafodd eu gorfodi o'u cartrefi yng Ngheredigion wedi'r llifogydd difrifol ym mis Mehefin wedi cael dychwelyd adre'.
Dywed Cyngor Ceredigion bod 15 o deuluoedd a adawodd eu cartrefi yng ngogledd y sir wedi symud yn 么l i mewn.
Fe gafodd rhai o'r trigolion rybudd y byddai'n rhaid iddyn nhw adael eu tai am hyd at chwe mis, wedi i werth mis o law ddisgyn o fewn 24 awr ar Fehefin 8 a 9.
Er hynny, mae 14 o deuluoedd aeth at y cyngor am gymorth yn dal i orfod byw yn rhywle arall am y tro.
Roedd tref Aberystwyth a phentrefi cyfagos Talybont, D么l-y-bont, Capel Bangor, Penrhyn-coch a Llandre ymysg y lleoedd a ddioddefodd adeg llifogydd Mehefin, ynghyd 芒 rhai meysydd carafannau gerllaw.
Cyfri'r gost
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Hyd y gwyddom, yn seiliedig ar ymweliadau gan swyddogion yr awdurdod, mae 15 o deuluoedd wedi dychwelyd i'w cartrefi.
"O'r teuluoedd ddaeth at y cyngor i ofyn am gymorth, mae wyth wedi cael lle i fyw mewn eiddo preifat neu gynlluniau llety dros dro gan gymdeithasau tai.
"Mae chwech arall wedi dod o hyd i lety dros dro eu hunain."
Mae Cyngor Ceredigion yn dal i gyfri'r gost wedi'r llifogydd.
Gwariodd yr awdurdod 拢300,000 ar y gwaith glanhau wedi'r llanast ac i drwsio ffyrdd a phontydd.
Ond dywedon nhw ym mis Awst bod disgwyl i'r bil terfynol godi i dros 拢400,000.
Cafodd 拢105,000 ei gasglu drwy ap锚l gan arweinydd y cyngor, ac mae 130 o bobl a ddioddefodd oherwydd y llifogydd wedi cael taliadau i gynorthwyo gyda'u costau.
Yn y cyfamser fe gafodd rhai busnesau, yn enwedig rhai ym myd twristiaeth, gynnig cymorth gan Lywodraeth Cymru.