Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyddonwyr Bangor yn anelu at fand eang 2,000 o weithiau'n gyflymach
Sut mae creu cysylltiad band eang cyflymach heb gostau annerbyniol?
Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn credu eu bod ar fin cynnwys llawer mwy o ddata ar hyd gwifrau ffibr optig heb gostau rhy uchel.
Eisoes maen nhw wedi llwyddo i gynnwys 20 gigabit o ddata - cymaint ag 20 ffilm - bob eiliad.
Am ddwy flynedd arall fe fyddan nhw'n ceisio troi hyn yn fenter fasnachol.
Wrth i hyd y gwifrau ffibr optig a'r data gynyddu, mae 'na beryg o fwy o gamgymeriadau a'r opsiynau yw cynyddu nifer llinynnau gwifren, cynyddu'r codau laser a datrys y data digidol.
Tonnau trydan ffisegol
"Y broblem yw y gall hyn gostio llawer o arian," meddai Dr Roger Giddings, un o'r t卯m sy'n rhedeg y prosiect.
"Y bwriad yw asesu a oes modd gwneud hyn yn effeithiol yn ariannol, ac yn ymarferol yn fasnachol."
Ym Mangor mae'r ymchwilwyr yn troi data craidd yn donnau trydanol ffisegol, cyn ei droi'n signal optig all gael ei lwytho i lawr gwifren gan laser.
Mae'r t卯m wedi llwyddo i lunio offer electronig all greu'r cod a datrys y cod sydd ei angen i anfon y signal.
"Mae'n bosib bod llai na 10 o grwpiau drwy'r byd yn ceisio datrys y broblem," meddai Dr Giddings.
"Ond ni yw'r unig gr诺p sydd wedi llwyddo i gael system o un pen i'r llall."
Mae'r ffaith eu bod wedi llwyddo i anfon data 20 gigabit yn hwb iddyn nhw anelu at anfon data 40 gigabeit.
Gorau
Y cyflymder gorau yn y DU ar gael i'r cyhoedd yw 1.5 gigabit yr eiliad, yn nwyrain Llundain.
Ond y cyflymder lawrlwytho cyflyma' ar gael ym Mhrydain, yn 么l arolwg gwefan ISPreview ym mis Hydref, ydi 33.4 megabit yr eiliad, 0.17% o'r cyflymder sy'n cael ei gynnig gan y t卯m ymchwil ym Mangor.
Yr her iddyn nhw yw troi'r dechnoleg yn y labordy yn realiti am bris derbyniol.
Mae arbenigwyr fel Fujitsu Semiconductors Europe a Sefydliad Fraunhofer Heinrich Hertz yn eu helpu.
"Rydym yn gobeithio y bydd modiwl fydd yn gweithio ar ddiwedd y prosiect," meddai Dr Giddings flwyddyn wedi dechrau'r prosiect.