Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwahodd Prifwyl yn swyddogol i Lanelli yn 2014
Roedd tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Strade, Llanelli nos Iau i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn swyddogol i'r dref yn 2014.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld 芒'r sir ers pedair blynedd ar ddeg.
Bydd Maes yr Eisteddfod yn y Meysydd G诺yl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, a bydd yr Eisteddfod hefyd yn defnyddio'r theatr newydd yn Y Ffwrnes.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, eu bod wedi ystyried safleoedd yn Rhydaman, Llandeilo, Caerfyrddin a Phen-bre cyn dewis yr un yn Llanelli yn dilyn misoedd o drafod rhwng y Brifwyl a'r cyngor lleol.
Bydd disgwyl i bobol leol godi 拢320,000 tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod.
Etholwyd Gethin Thomas, Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant, yn gadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.
Mae'r Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud: "Mae ymweliad yr Eisteddfod yn sicr o roi hwb fawr i'r sir gyfan, nid yn unig yn ystod yr wythnos ei hun ond yn y cyfnod hyd at yr ymweliad.
"Mae'n gyfnod hynod gyffrous yn Llanelli, gyda datblygiadau Y Ffwrnes a Phorth y Dwyrain yn agor yn fuan. Bydd ymweliad yr Eisteddfod yn goron ar y cyfan".