Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Symud rhai o bobl Llanelwy a Rhuthun o'u cartrefi oherwydd llifogydd
Wrth i fwy o law ddisgyn mae'r llifogydd yn achosi trafferthion yn y gogledd.
Mae'r sefyllfa yn wael iawn yn ardal Rhuthun bore Mawrth gyda cheir o dan dd诺r a thua 50-60 o dai ar stad Glasdir wedi eu heffeithio.
Caiff y trigolion gymorth i symud i ddiogelwch yno ac wrth i lefelau Afon Elwy godi mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn cynghori a symud cannoedd o bobl o'u cartrefi yn ninas Llanelwy yn ystod yr oriau diwethaf.
Mae tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, wedi diodde' o lifogydd ac mae canolfan frys wedi ei sefydlu yno.
Mae 'na lifogydd hefyd yn Llanfairtalhaearn, Llangernyw a Llansannan, Sir Conwy.
Dywedodd y gwasanaeth t芒n fod y sefyllfa yn Llanfairtalhaearn yn "ddifrifol".
Oherwydd y llifogydd mae sawl ysgol wedi cau gan gynnwys Ysgol Talhaearn, Ysgol Llanefydd, Ysgol Bro Cernyw, Ysgol Bro Aled, Llansannan, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod Afon Elwy wedi gorlifo'r amddiffynfeydd llifogydd yng ngogledd Llanelwy.
"Mae trigolion mewn hyd at 500 o dai yng ngwaelodion y ddinas wedi cael eu rhybuddio o'r sefyllfa drwy ddefnyddio System Rybuddio Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae'r gwasanaethau brys hefyd wedi bod yn hysbysu trigolion o'r peryg o lifogydd.
"Mae trigolion yn cael eu hannog i adael eu cartrefi i aros gyda theulu a ffrindiau, neu i fynychu canolfan orffwys sydd wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Ddinbych yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy, mewn cydweithrediad 芒 chydweithwyr o'r Groes Goch Brydeinig."
Mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro'r sefyllfa.
Mae nifer o bobl wedi mynd i'r ganolfan frys.
Trafferthion ffyrdd
Yn y cyfamser, mae 'na rybuddion llifogydd hefyd yn Nyffryn Conwy; Afon Rhyd-Hir ar gyrion Pwllheli ac ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer yn ogystal ag Afon Rhydeg yn Ninbych-y-Pysgod.
Mae llifogydd yn achosi trafferthion hefyd yn Llanrwst.
Gwasanaeth bws sydd ar gael yn hytrach na threnau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.
Mae'r gwasanaethau tr锚n wedi ei atal rhwng Caergybi a Bangor oherwydd bod y d诺r yn dal i godi a gorchuddio'r cledrau.
Mae 'na gyngor mewn 24 ardal arall i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth.
Oherwydd y llifogydd mae 'na nifer o ffyrdd wedi cael eu heffeithio.
Diwrnod i wella
Mae'r B5381 Ffordd Isaf Dinbych yn Llanelwy wedi cau, yn ogystal 芒 Ffordd Graig yn Ninbych.
Ffyrdd eraill sydd wedi cau oherwydd y tywydd ydi'r A4086 Pen-Y-Pass i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4547 (Llanberis) a A498 (Nant Peris); A5 ger yr A470 Pont Waterloo; yr A5 i'r ddau gyfeiriad rhwng y B4401 (Corwen) a A494 (Dwyryd).
Yr A525 i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A55 (Cyffordd 27 Llanelwy) a'r A547 (Rhuddlan); B548 rhwng Abergele a Llanrwst; B5106 Llanrwst i Drefriw; A544 yn Llansannan a'r brif ffordd i mewn i Eglwysbach, Conwy, o Dal y Cafn (Ffordd T欧 Gwyn).
Mae 'na dd诺r ar nifer o ffyrdd llai gyda'r cyngor i deithwyr fod yn ofalus.
Fe fydd y tywydd yn gwella yn ystod y dydd wrth i'r glaw gilio.
Ond fe fydd yn cymryd peth amser i lefelau d诺r yn yr afonydd ostwng.
"Yn 么l y rhagolygon fe fydd y glaw yn troi yn ysgafnach yn ystod y bore ac wedi clirio erbyn y prynhawn gan droi'n sych ar y cyfan," meddai Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.
"Fe fydd hi'n dal yn eitha' gwyntog ac mae disgwyl cawodydd rhwng Ynys M么n a Sir Benfro, cawodydd gaeafol uwchben rhyw 700 metr."
Os oes gan unrhyw un bryderon am lifogydd yn eu hardal, y cyngor ydi ffonio llinell wybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188 gan ddefnyddio'r rhif 191907 am y wybodaeth ddiweddaraf.