Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teyrnged i fenyw fu farw yn Llanelwy
Mae teulu menyw oedrannus fu farw yn ystod y llifogydd yn Llanelwy wedi rhoi teyrnged iddi.
Fe fyddai Margaret Hughes wedi dathlu ei phen-blwydd yn 92 oed ddydd Iau.
Cafodd ei disgrifio fel menyw annibynnol a phenderfynol iawn ac yn llawn hiwmor a hwyl.
Dywedodd ei theulu: "Er gwaetha'i hoedran, roedd yn llawn asbri ac yn mwynhau diddanu eu hwyrion a'u gor-wyrion, yn enwedig dros y Nadolig.
"Roedd yn mynd i gerdded a hel coed tan yr oedd yn ei hwythdegau.
'Byth yn cwyno'
"Roedd yn dod o hen deulu o ffermwyr oedd byth yn cwyno a phob tro dymuniadau eraill oedd yn dod yn gyntaf.
"Treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd cynnar yn ffermio ger Corwen ac yna ym Mhlas Coch Llanelwy cyn symud i Tai'r Felin.
"Mae'r newyddion am ei marwolaeth annisgwyl wedi ein hysgwyd ni.
"Roedd yn dal yn llawn bywyd ac yn edrych ymlaen at y Nadolig."
Dywedodd y teulu eu bod am ddiolch o galon am y negeseuon o gefnogaeth ac ewyllys da ond eu bod bellach yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.