Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol Gymraeg newydd yn ne Sir Benfro
Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Ninbych-y-pysgod.
Fe fydd yr ysgol newydd yn agor ar Fedi 1, 2015.
Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cynllun.
Ar hyn o bryd mae yna ysgol Fabanod ac ysgol Iau yn y dref ac unedau Cymraeg yn y ddwy.
Yn 么l y sir, mae yna 66 o blant llawn amser a 13 o blant rhan amser yn cael addysg Gymraeg ond mae disgwyl i'r nifer gynyddu 85% o fewn pedair blynedd.
Mae cynghorwyr wedi cytuno gydag argymhelliad i uno'r Ysgol Fabanod a'r Ysgol Iau yn y dref.
Bydd yr Ysgol Fabanod yn dod yn gartref i'r ysgol Gymraeg newydd, gyda'r Ysgol Iau presennol yn newid i ddarparu addysg cyfrwng Saesneg i blant rhwng 3-11 oed.
'Dechrau'r daith'
Yn 么l cyfrifiad 2001, roedd 21% o boblogaeth y sir yn siarad yr iaith er yn hanesyddol roedd y rhan fwyaf yn byw yng ngogledd y sir.
Ar y Post Cyntaf, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Huw George: "Dechrau ar y daith y'n ni heddi ac yn gobeithio yn 2015 y bydd yr ysgol yn agor.
"Felly mae tair blynedd gyda ni nawr i baratoi ac i roi cynlluniau gerbron."
Soniodd hefyd am ei obaith y byddai modd darparu addysg uwchradd Gymraeg yn y dre.
"Ar hyn o bryd mae'r disgyblion yn symud ymlaen i Ysgol y Preseli yng Nghrymych ond mae 'na fwriad gen i a nifer eraill yn y cyngor i sefydlu cangen yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 ... fel y bydd y rhifau'n codi.
"Gobeithio wedyn y gallwn ni gadarnhau i rieni a'r plant bod ddim eisiau iddyn nhw deithio i'r Preseli ..."