Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angladd menyw fu farw yn ystod llifogydd yn Llanelwy
Cafodd angladd menyw 91 oed foddodd yn ei chartref yn ystod llifogydd Llanelwy ei gynnal brynhawn Gwener.
Roedd cannoedd yn Eglwys y Plwyf Llanelwy a Chyndeyrn.
Timau achub ddaeth o hyd i gorff Margaret Hughes pan oedden nhw'n ceisio helpu pobl i adael eu cartrefi ddydd Mawrth, Tachwedd 27.
Fe fyddai Mrs Hughes wedi dathlu ei phen-blwydd yn 92 oed ar Dachwedd 29.
Cafodd cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio gan grwner dros dro canol gogledd Cymru, John Gittins, ar Dachwedd 30.
Boddi
Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, yn dangos mai achos ei marwolaeth oedd boddi.
Cafodd Mrs Hughes ei disgrifio'n fenyw annibynnol a phenderfynol iawn ac yn llawn hiwmor a hwyl.
Wedi ei marwolaeth dywedodd ei theulu: "Er gwaetha'i hoedran, roedd yn llawn asbri ac yn mwynhau diddanu eu hwyrion a'u gor-wyrion, yn enwedig dros y Nadolig.
"Mae'r newyddion am ei marwolaeth annisgwyl wedi ein hysgwyd ni.
"Roedd yn dal yn llawn bywyd ac yn edrych ymlaen at y Nadolig."