Sawl ffactor yn gyfrifol am lifogydd stad Glasdir Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad ar y llifogydd diweddar ar stad o dai newydd yn Rhuthun yn dweud fod sawl cyfuniad o ffactorau gwahanol wedi arwain at hyn.
Roedd perchnogion eiddo ar stad Glasdir, sy'n dal i gael eu hadeiladu, wedi cael gwybod bod eu cartrefi yn cael eu gwarchod gan amddiffynfeydd llifogydd.
Cafodd dros 100 o gartrefi ar y stad eu heffeithio gan lifogydd mis diwethaf.
Yn 么l trigolion roedden nhw wedi cael gwybod bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn golygu mai dim ond un mewn 1,000 o flynyddoedd oedd 'na o siawns am lifogydd.
Fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gyhoeddi adroddiad ddydd Mercher i'r hyn aeth o'i le.
Mae'n dweud y byddai angen i'r ffosydd o gwmpas y stad fod wedi bod 85% yn llawn er mwyn achosi llifogydd ar y stad.
Amddiffynfeydd allweddol
Gan na allai d诺r llifogydd wasgaru ar draws y gorlifdiroedd aeth i mewn i'r stad yn lle.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod tir gwlyb ar 么l glaw trwm yn Afon Clwyd yn ffactorau pwysig hefyd.
Bydd y trigolion yn awr yn awyddus i wybod, gwaith pwy oedd hyn ac yw hi i gadw'r ceuffosydd yn glir.
Mae'r asiantaeth yn adfer dros 35 o safleoedd yn Nyffryn Clwyd a ddifrodwyd yn ystod y llifogydd, rhai amddiffynfeydd llifogydd allweddol.
"Dwi'n cydymdeimlo'n llwyr gyda'r rhai sydd wedi diodde' ac a wnaeth dystio i'r llifogydd," meddai Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
"Roedd llunio'r adroddiad yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi atebion i gwestiynau'r trigolion.
"Y cam nesa yw gweithio gyda'r rhai sy'n gyfrifol am y system i warchod y stad a lleihau'r un peth ddigwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012