大象传媒

Band eang: Buddsoddiad o 拢39m ar gyfer ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn defnyddio cliniaduron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y cyllid yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau band eang cyflymach yn 么l Llywodraeth Cymru

Bydd gan bob ysgol yng Nghymru fynediad i wasanaethau band eang cyflymach yn sgil buddsoddiad o 拢39m gan Lywodraeth Cymru yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawi'r buddsoddiad.

Bydd 拢27m yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol er mwyn diweddaru cysylltiadau'r rhyngrwyd mewn ysgolion.

Adnoddau

Lle bo angen, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu darparu 拢10,000 ar gyfer eu hysgolion cynradd ac arbennig ac 拢20,000 ar gyfer eu hysgolion uwchradd.

Daw cyhoeddiad ddydd Llun yn sgil lansiad cynllun Hwb gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Bydd Hwb - sy'n blatfform dysgu digidol i ddysgwyr 3-19 oed - yn ei gwneud yn bosibl i athrawon a dysgwyr gael gafael ar adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac o unrhyw ddyfais sy'n defnyddio'r rhyngrwyd.

Dywedodd Mr Jones: "Rydym am i Gymru fod yn arweinydd byd ym maes dysgu digidol.

"Felly mae angen inni allu cynnig gwasanaethau band eang cyflym, cyson a dibynadwy ar gyfer ein hysgolion.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y bydd gan ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, erbyn 2014, fynediad i wasanaethau band eang diogel o safon fyd-eang, sy'n angenrheidiol ar gyfer addysg ddigidol o safon fyd-eang."

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: "Mae Cymru angen buddsoddiad o ran ein dyfodol digidol ac fe fydd buddsoddi mewn darparu cysylltedd band eang mewn ysgolion yn helpu sicrhau bod ein pobl ifanc yn derbyn y sgiliau sydd eu hangen i wneud gweithlu Cymru'r dyfodol yn gystadleuydd byd-eang."

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns, y byddai ariannu ysgolion yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy awdurdodau lleol yn golygu llai o waith gweinyddol a mwy o arian ar gyfer cyfarpar.

"Mae disgyblion sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn llai tebygol o berchnogi cyfrifiaduron yn eu cartrefi felly mae'r cyfle o gael at gyfrifiaduron band eang cyflym mewn ysgolion hyd yn oed yn fwy pwysig o ran gwella llythrennedd technoleg gwybodaeth," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol