Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wrecsam gam yn nes at Wembley wrth guro Southport yn Nhlws yr FA
Southport 1-3 Wrecsam
Mae Wrecsam gam yn nes at chwarae yn Wembley am y tro cyntaf yn eu hanes ar 么l iddyn nhw guro Southport o 3-1 yn Nhlws yr FA ac yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol.
Roedd 'na amheuaeth a fyddai'r g锚m yn mynd yn ei blaen wedi'r tywydd gaeafol ond daeth cadarnhad am 1pm y byddai'r g锚m yn cael ei chwarae yn Stadiwm Mersyrail.
Hynny wedi tri archwiliad yn ystod y bore o'r maes.
Cyn-chwaraewr Wrecsam, Shaun Whalley, gafodd y cynigion cyntaf i Southport ond wnaeth o ddim llwyddo.
Y t卯m cartref oedd yn chwarae'r p锚l-droed gorau ar gychwyn y g锚m ac yn manteisio ar amodau anodd gyda'r tir yn llithrig iawn.
Ond wedi 27 munud fe ddaeth g么l i Wrecsam gyda Joe Clarke yn penio o groesiad Danny Wright er bod Robert Ogleby wedi colli cyfle i roi Wrecsam ar y blaen funudau yn gynharach.
Cyfleoedd gorau
Fe ddaeth y g么l i Wrecsam yn erbyn llif y chwarae.
Roedd Wrecsam wedi gwneud salw camgymeriad a doedden nhw wedi argyhoeddi.
Ond fe ddaeth ail g么l i'r ymwelwyr cyn yr egwyl gan Chris Westwood.
Rhwng y ddwy g么l i Wrecsam ac am gyfnodau yn yr ail hanner Southport oedd yn cael y cyfleoedd gorau ac yn bygwth sgorio.
Jay Harris gafodd drydedd g么l Wrecsam cyn i Southport daro'n 么l a chael g么l wedi 72 munud.
Fe ddaeth i Whalley o gic o'r smotyn wedi iddo gael ei faglu gan Ogleby.
Wedi g么l Southport cafodd y t卯m cartref adfywiad ac wedi cael cyfleon da.
Fe allai fod yn hawdd wedi gorffen yn gyfartal ac mae'n debyg mai stori wahanol fyddai hi petai Southport wedi llwyddo gydag ail g么l.
Ond mae Wrecsam gam yn nes at y rownd derfynol.