S4C: 'Angen sicrwydd ar 么l 2017'

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Cairns ei fod yn gwerthfawrogi fod annibyniaeth S4C wedi ei diogelu

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg wedi galw am sicrhau cyllid i S4C ar 么l 2017.

Roedd Alun Cairns mewn trafodaeth arbennig yn Neuadd San Steffan yn Llundain.

Y 大象传媒 drwy ffi'r drwydded fydd yn ariannu'r sianel i raddau helaeth o fis Ebrill ymlaen tan 2017.

Bydd grant ychwanegol o 拢7m oddi wrth Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwareon San Steffan.

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn gwerthfawrogi fod annibyniaeth S4C wedi ei diogelu mewn cytundeb ag Ymddiriedolaeth y 大象传媒 yr wythnos hon.

Roedd y 拢7m oddi wrth San Steffan nid yn unig yn bwysig "yn ariannol," meddai, "ond yn atal y 大象传媒 rhag meddu ar fonopoli llwyr wrth ariannu a chomisiynu rhaglenni."

'Rheolau'

"Dwi'n sylweddoli bod rheolau'r Trysorlys yn clymu dwylo'r gweinidog rhag rhoi sicrwydd pendant ond rwy'n gofyn am ateb sy'n dangos ei ymrwymiad e a'i adran i'r sianel."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, eu bod "yn aml wedi pwysleisio eu hymroddiad i wasanaeth teledu Cymraeg cryf ac annibynnol."

Byddai'r cytundeb rhwng S4C a'r 大象传媒, meddai, yn arwain at sefydlogrwydd.

"Dyw'r arian ddim cymaint 芒'r hyn gafwyd yn y gorffennol ond mae'r swm yn sylweddol."

Dywedodd na allai glymu llywodraeth y dyfodol.

"Rydyn ni am i'r sianel gael ei hariannu'n ddigonol a sicrhau ei dyfodol.

"Yn amlwg o'r drafodaeth heddiw, mae'n sianel ffantastig ac yn dal i fod yn boblogaidd iawn yng Nghymru."