Ffrae yn y llysoedd rhwng blogiwr a chyngor

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark James a Jacqui Thompson ill dau yn dwyn achosion yn erbyn ei gilydd

Mae dynes, a gafodd ei harestio am ffilmio cyfarfod cyngor, wedi dweud wrth yr Uchel Lys ei bod wedi ei "siomi'n llwyr" fod prif weithredwr yr awdurdod wedi ei chyhuddo o "boenydio" wrth iddi ddwyn achos enllib yn ei erbyn.

Honnodd Jacqui Thompson - sydd wedi bod yn ysgrifennu blog er 2009 - mai bwriad y llythyr gan bennaeth cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, oedd ei thanseilio.

Cafodd ei thaflu allan o'r cyfarfod a'i harestio wedi iddi wrthod rhoi'r gorau i ffilmio ym mis Mehefin 2011.

Mae Mr James yn gwadu enllib ac mae yntau'n dwyn achos yn erbyn Mrs Thompson o Lanwrda.

Clywodd yr Uchel Lys fod Mr James wedi ysgrifennu'r llythyr mewn ymateb i feirniadaeth gan Mrs Thompson yn dilyn y digwyddiad.

Mae Mrs Thompson yn dwyn achos yn erbyn Mr James a'r cyngor sir ar sail honiadau o enllib.

Anfonwyd sylwadau Mr James at 74 o gynghorwyr, ac fe'u gwelwyd 825 o weithiau ar 么l cael eu hailgyhoeddi ar flog arall.

'Beirniadaeth wleidyddol'

Yn 么l Mrs Thompson, roedd Mr James yn anghywir i ddweud ei bod hi'n "cynnal ymgyrch o boenydio", a mynnodd nad oedd ei gweithredoedd yn ddim fwy na "beirniadaeth wleidyddol" ac o'r herwydd wedi'u diogelu o dan hawliau rhyddid mynegiant a barn.

Dywedodd ei chyfreithwyr wrth y llys fod y llythyr yn ymgais i'w "distewi, difr茂o a thanseilio", am ei bod hi'n cael ei hystyried fel "rhywun oedd yn creu trafferth ac yn niwsans".

Wrth gyfeirio at y llythyr, dywedodd Mrs Thompson wrth Mr Ustus Tugendhart: "Roeddwn ni wedi fy siomi'n llwyr."

"Roeddwn yn teimlo mai'r unig ffordd i wneud safiad a dangos fod yr un oedd o'n ddweud yn anwiredd oedd yn gyfreithiol - dyna'r unig ffordd o wneud hynny."

"Roeddwn yn teimlo y byddai pobl yn meddwl llawer llai ohonof i; bydden nhw wedi meddwl fy mod yn ffuantus ac yn gelwyddgi."

Dywedodd fod ffilmio cyfarfodydd cyngor yn rhywbeth "naturiol" i'w wneud er mwyn ychwanegu at ei blog.

"Roeddwn yn credu ei fod yn ofod cyhoeddus, fod 'na benderfyniadau cyhoeddus yn cael eu gwneud gan gynrychiolwyr y cyngor ac mai arian cyhoeddus oedd yn cael ei wario."

'Targedu'

Yn ogystal ag amddiffyn yr honiadau yn ei erbyn, mae Mr James hefyd yn dwyn achos yn erbyn Mrs Thompson - achos sy'n cael ei ariannu gan y cyngor - gan honni ei fod yntau wedi cael ei ddifr茂o gan sylwadau ar flog Mrs Thompson.

Dywed cyfreithwyr ar ran Mr James a'r cyngor nad ydynt wedi mynd yn groes i hawliau Mrs Thompson, a dywedon nhw fod y llythyr gan Mr James yn 'hanfodol' i amddiffyn hawliau a rhyddid eraill trwy gynnal hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ac ymddygiad y cyngor.

"Cyflwynir yma mai'r mater yw a yw ei phryderon hi am ffilmio yn ymwneud o ddifri 芒 democratiaeth neu yn rhan o'i hymgyrch ddiweddara'," meddai Adam Speker.

"Mae'r diffynnydd yn dadlau mai ei phrif bwrpas hi ar hyd yr adeg oedd targedu swyddogion a chynghorwyr. Dyna'r rheswm mae hi'n ysgrifennu ei blog.

"Dyna'r rheswm pam ei bod yn mynd i gyfarfodydd - i ddal pobl allan - a dyna pam, medd y diffynydd, y gwnaeth hi ddechrau ffilmio'r cyfarfodydd."

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara o leia' wythnos.