Yn erbyn cau cartrefi preswyl ar Ynys M么n

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyngor yn adolygu dyfodol chwe chartre' gofal

Mae 'na brotestiadau wedi bod yn Sir F么n yn erbyn cynlluniau posib i gau cartrefi gofal.

Ers yr haf mae 'na ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal ar ddyfodol y chwe chartre' gofal sydd dan ofal y cyngor, fel rhan o gynlluniau i arbed 拢13 miliwn o gyllid y cyngor erbyn 2016.

Undeb Unsain drefnodd y protestiadau'r tu allan i'r cartrefi ddydd Iau.

Dywedodd y cyngor eu bod yn ystyried yr ymateb "llethol" i'r ymgynghoriad cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Dywedodd Thelma Parry o gangen M么n o Unsain: "Yn ddealladwy, mae aelodau Unsain yn flin iawn am unrhyw ymdrechion i geisio cau ein cartrefi preswyl.

"Mae'r cartrefi hyn wrth galon y gymuned ac mae'r trigolion angen cefnogaeth.

"Rydym yn gwybod bod gennym gefnogaeth y gymuned leol sydd hefyd yn erbyn unrhyw doriadau neu ymgais i gau."

Demograffig

Mae tua 170 o drigolion oedrannus yn cael gofal yng nghartrefi'r cyngor.

Ond dywedodd yr awdurdod fod angen "ailfodelu" gwasanaethau cymdeithasol i oedolion wrth iddyn nhw geisio delio 芒'r cynnydd yn nifer yr henoed.

Erbyn 2032, mae disgwyl i 25% o'r boblogaeth fod dros 65.

Yn ogystal, mae 'na bwysau cynyddol ar gyllideb y cyngor sydd angen gwneud arbedion o 拢2.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesa'.

Bydd angen arbedion pellach o 拢10 miliwn erbyn diwedd 2016.

Llunio

Dywedodd cyfarwyddwr cymuned y sir, Gwen Carrington, fod adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gartrefi preswyl yn cael ei lunio, ac fe ddiolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu at y broses.

"Rydym yn hapus dros ben gyda nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan a chyda'r ymateb sydd wedi dod i law," meddai.

"Mae'r wybodaeth yn cael ei hastudio ar hyn o bryd ac fe ddylai fod yn werthfawr wrth i ni edrych ar drawsnewid gofal cymdeithasol i oedolion ar Ynys M么n yn y dyfodol.

"Bydd adroddiad ffurfiol yn amlinellu'r cyfleoedd a'r heriau yn cael ei gyflwyno i'r gweithgor yn ddiweddarach yn y gwanwyn."