大象传媒

Cyhoeddi pedwar dewis ar gyfer Pont Ddyfi

  • Cyhoeddwyd
D诺r uchel yn Afon Ddyfi ger y bontFfynhonnell y llun, 大象传媒 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llifogydd a damweiniau ar yr A487 yn achosi difrod i'r bont

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedwar dewis ar gyfer dyfodol pont 200 oed yn y canolbarth.

Mae Pont Ddyfi yn cael ei chau yn aml o ganlyniad i lifogydd ar yr A487 rhwng Powys a Gwynedd.

Mae'r bont wedi ei difrodi yn y gorffennol gan lifogydd a cherbydau.

Gwybodaeth bellach

Dywedodd Maer Machynlleth, Gareth Jones, ei fod o o blaid codi pont newydd yn uwch i fyny'r afon.

Dywedodd Mr Jones ei fod o, a'r cyngor tref, am weld pont sy'n addas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.

"Mae hyn wedi bod yn broblem ers degawdau. Mae angen i ni wybod pryd fyddwn ni'n gweld rhywbeth yn digwydd.

"Mae angen gwybodaeth bellach arnom ni."

Y pedwar dewis yw:

  • Pont newydd uwchlaw'r bont bresennol

  • Pont newydd islaw'r bont bresennol

  • Lledu a chryfhau'r bont bresennol, gwaith lleihau llifogydd a chodi'r A487 presennol

  • Lledu a chryfhau'r bont bresennol a gwaith lleihau llifogydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y pedwar dewis yn cael eu hystyried ymhellach a bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni.

Yn y cyfamser bydd gwaith ar gostau ac effaith amgylcheddol y cynlluniau yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol