Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Alban 1-2 Cymru
Cafwyd ail fuddugoliaeth i Gymru yng ngr诺p rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, a hynny mewn modd rhyfeddol o debyg i'r ffordd y curwyd yr Alban yng Nghaerdydd ym mis Hydref o 2-1.
Mae Cymru nawr yn codi i'r trydydd safle yn y gr诺p.
Fel yn y g锚m honno aeth Yr Alban ar y blaen, gyda'r Cymry yn arddangos cymeriad a hyder i frwydro n么l, gyda dwy g么l o fewn 93 eiliad yn troi'r pendil o blaid Cymru.
T卯m Chris Coleman a feistrolodd yr hanner cyntaf, ond heb greu'r un cyfle euraid.
Ergyd drom felly oedd gweld yr Albanwyr yn mynd ar y blaen wedi 47 munud ar 么l chwip o gic gornel gan Charlie Mulgrew a Grant Hanley yn cael y gorau ar Sam Ricketts i benio i'r rhwyd o chwe llath.
Roedd cryn ddyfalu cyn y g锚m a fyddai Gareth Bale yn chwarae ar 么l i'r ymosodwr o glwb Tottenham Hotspur ddiodde' gyda firws drwy'r wythnos, yn ogystal ag anaf i'w ff锚r.
Tawedog ydoedd yn yr hanner cyntaf, serch hynny, yn amlwg ddim yn 100%, ac wedi dioddef tacl drom tua diwedd yr hanner cyntaf, ni ddaeth yn 么l wedi'r egwyl.
Trobwynt
Yr Alban ddechreuodd yr ail hanner yn gryfach, ond daeth trobwynt y g锚m pan faglwyd Chris Gunter ychydig o fewn y cwrt cosbi gan dacl bl锚r Robert Snodgrass.
Cafodd Snodgrass ei anfon o'r cae gan fod y dacl wedi teilyngu ei ail gerdyn melyn. Aaron Ramsey lwyddodd o'r smotyn.
Funud a hanner yn ddiweddarach cafodd croesiad Andy King ei benio i'r rhwyd gan Hal Robson-Kanu o wyth llath.
Bydd Aaron Ramsey yn colli'r g锚m nos Fawrth yn erbyn Croatia wedi iddo gael ei anfon o'r cae wedi 90 munud am dacl drwstan ar James McArthur.
Dywedodd Chris Coleman ar 么l y g锚m: "Fe wnaeth y bechgyn bopeth a ofynnwyd iddyn nhw, gan fod yn amyneddgar a phasio'r b锚l o gwmpas.
"Roedd hon yn fuddugoliaeth haeddiannol, ac mae ein golygon yn troi nawr at y g锚m yn Abertawe nos Fawrth".
Cymru: Myhill, Gunter, Ricketts, Ashley Williams, Davies, Collison, Ramsey, Ledley, Bale, Robson-Kanu, Bellamy.
Eilyddion: Price, Lynch, Richards, Collins, King, Vaughan, Church, Vokes, Jonathan Williams, Easter, Nyatanga, Fon Williams.
Yr Alban: McGregor, Hutton, Caldwell, Hanley, Mulgrew, Burke, McArthur, Dorrans, Snodgrass, Maloney, Fletcher.
Eilyddion: Gilks, Mackay-Steven, Whittaker, Webster, Adam, Naismith, Miller, Commons, Rhodes, Bannan, Martin, Marshall.