Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau Pont Briwet am bedair wythnos
Bydd Pont Briwet, rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau, ynghau am tua phedair wythnos o 15 Ebrill.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd SP Power (Scottish Power) yn cynnal gwaith paratoadol cyn adeiladu pont newydd.
Os bydd yn bosib agor y bont am gyfnodau byr yn ystod y pedair wythnos, bydd arwyddion "pont ar agor" yn cael eu gosod.
Mae Pont Briwet yn cario trenau a cheir dros Afon Dwyryd.
Mae'r bont bresennol yn 150 oed ac yn cael ei hystyried yn anaddas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.
2015
Bydd y bont newydd yn 18 metr ar draws, o'i gymharu gyda'r 8.5 metr presennol.
Bydd yn cael ei hadeiladu mewn rhannau penodol i sicrhau na fydd effaith ar wasanaethau tr锚n a bydd pont dros dro hefyd yn cael ei chodi ar gyfer cerbydau.
Disgwylir i'r bont newydd agor yn 2015.
Cafwyd dros 拢9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, sydd wedi ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal 芒 Network Rail, Cyngor Gwynedd, a chonsortiwm trafnidiaeth canolbarth Cymru Trac i wireddu'r prosiect.
Bydd y bont newydd yn parhau i gario trac rheilffordd sengl ond bydd hefyd yn cynnwys priffordd gyhoeddus ddwyffordd ynghyd a llwybr beicio i gymryd lle'r un l么n bresennol.