Bale yn cipio dwy wobr

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Sgoriodd Bale bum g么l mewn pedair g锚m i Gymru

Mae'r Cymro Gareth Bale wedi ennill dwy wobr fawr y byd p锚l-droed.

Bale gafodd ei enwi fel chwaraewr y flwyddyn a chwaraewr ifanc y flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr.

Aelodau'r PFA - Cymdeithas y P锚l-droedwyr Proffesiynol - sy'n dewis enillwyr y gwobrau, ac fe gafodd Bale ei enwebu yn y ddau gategori yn gynharach yn y mis.

Ag yntau bellach yn 23 oed, mae Bale wedi sgorio 24 o goliau y tymor hwn, gydag 19 yn yr Uwchgynghrair.

Mae e hefyd wedi sgorio 5 g么l mewn pedair g锚m i Gymru y tymor hwn, a'r rheini'n gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, Yr Alban a Croatia ynghyd 芒 g锚m gyfeillgar yn erbyn Awstria.

Yr enwau eraill ar y rhestr fer am y brif wobr oedd Michael Carrick a Robin van Persie o Manchester United, Eden Hazard a Juan Mata o Chelsea, a Luis Suarez o Lerpwl.

Bale enillodd y wobr am chwaraewr y flwyddyn yn 2010/11 hefyd.