Tynnu sylw at anawsterau byddardod
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar, mae elusen yn annog pobl i geisio gwneud bywyd yn haws i deulu, ffrindiau neu gydweithwyr sydd wedi colli eu clyw.
Mae tua 500,000 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu'n ei chael hi'n anodd clywed.
Yn 么l Action on Hearing Loss Cymru, fe ddylai pobl fod yn fwy ymwybodol o ba mor anodd yw hi i bobl sy'n methu clywed i gyfathrebu ag eraill a byw heb s诺n.
Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i ddysgu rhywfaint o Arwyddiaith Brydeinig sylfaenol.
Yn ystod yr wythnos, bydd gwefan yr elusen yn cynnig heriau i ymwelwyr i geisio darllen gwefusau a dyfalu'r hyn sy'n cael ei ddweud mewn sgyrsiau pob dydd.
Y nod yw dangos i bobl pa mor anodd a dryslyd y gall hi fod i bobl sy'n fyddar.
Cynghorion
Dywedodd Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, Richard Williams:
"Mae un o bob chwech o bobl 芒 rhyw fath o nam ar eu clyw ac yn osgoi cymdeithasu neu'n cael trafferth yn y gwaith am nad ydynt yn gallu dilyn sgwrs wrth siarad 芒 phobl sydd ddim yn ymwybodol o sut i gyfathrebu 芒 phobl sy'n fyddar.
"Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar, rydym yn annog pawb i ddilyn cynghorion a helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl fyddar rhag ymuno mewn sgyrsiau hwyliog a phwysig o ddydd i ddydd."
Mae Action on Hearing Loss Cymru hefyd yn annog pawb i 'Gadw'n Ddistaw!' yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar trwy gynnal cyfnodau o dawelwch wedi'u noddi mewn ysgolion, colegau a swyddfeydd er mwyn codi arian angenrheidiol ar gyfer gwaith yr elusen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2012