Trafod yn parhau ar Ynys M么n

Disgrifiad o'r llun, Ni chafodd yr un blaid fwyafrif clir ar gyngor Ynys M么n

Parhau mae'r trafod ymysg y pleidiau ar Gyngor Ynys M么n.

Er bod aelodau Plaid Cymru'n awyddus i geisio llunio clymblaid 芒 Llafur i reoli'r cyngor, mae'n debyg nad oedd cyfarfod rhwng y ddwy ddydd Mawrth.

Yn y cyfamser, mae trafodaethau rhwng cynghorwyr Annibynnol a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol ar y cyngor.

Mae 大象传媒 Cymru'n deall mai Arwel Roberts o Gaergybi yw arweinydd y gr诺p Llafur.

Oherwydd etholiadau ddydd Iau ni chafodd yr un blaid fwyafrif.

Fe gafodd 14 o aelod annibynnol eu hethol, 12 o Blaid Cymru, 3 o'r Blaid Lafur ac 1 Democrat Rhyddfrydol.

'Taro bargen'

Ar raglen Taro'r Post ddydd Llun dywedodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands o'r Blaid Lafur: "Rhaid i Gyngor Ynys M么n gael eu gweld yn gweithio gyda'i gilydd.

"Un o brif bynciau ein maniffesto ni oedd creu gwaith, ac fe fydd rhaid i hynny fod yn hollbwysig wrth i ni drafod."

Ar yr un rhaglen dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, arweinydd gr诺p Plaid Cymru: "Mi fydd yn rhaid taro bargen. Rwy'n falch o glywed s么n am y maniffesto - rhaid rhoi i bobl M么n yr hyn y maen nhw am ei weld.

"Rwy'n cytuno gyda Alwyn (Rowlands) am waith, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n bwrw 'mlaen cyn gynted 芒 phosib gyda chynllun Wylfa B."

Cafodd yr etholiadau eu gohirio am flwyddyn wrth i gomisiynwyr redeg y cyngor sir.