Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Achub Y Cyfnod
Mae papur newydd Y Cyfnod wedi cael ei brynu gan sicrhau dyfodol i'r wythnosolyn dwyieithog yn ardal Penllyn.
Perchennog, a golygydd, newydd y papur yw Mari Williams, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ei chwmni gwasanaethau cyfathrebu ei hun, Mari Williams PR.
Mae ganddi gefndir mewn newyddiaduraeth - bu'n gweithio i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ac yn awdur colofn yn y Western Mail cyn mynd i weithio fel Rheolwr Cyfathrebu 大象传媒 Cymru.
Dywedodd Mrs Williams: "Rydw i wrth fy modd o gael cymryd yr awenau."
"Mae'r Cyfnod a'i gyd-bapur y Corwen Times yn ganolog i fywyd yr ardal, yn ffynhonnell newyddion a gwybodaeth ac yn destun sgwrs yn wythnosol.
"Roedd yna gonsyrn mawr am ddyfodol y papur, a 'dwn i ddim sawl sgwrs glywais i am y golled fyddai petai'r papur y diflannu.
"Dwi'n mawr obeithio bod hwn yn ddechrau ar gyfnod newydd. Mae'n her enfawr i mi yn bersonol ac rwy'n llawn sylweddoli maint yr her o gynnal papur newydd wythnosol yn yr hinsawdd bresennol.
"Mae'r ymateb a'r gefnogaeth wedi bod yn syfrdanol. Fy mlaenoriaeth i ar hyn o bryd yw cael Y Cyfnod yn 么l ar y silffoedd cyn gynted ac y galla i."