大象传媒

Ymgyrch frys i atal haint coed

  • Cyhoeddwyd
Clefyd P ramorumFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y coed llwyd yn y darlun yw'r rhai sydd wedi'u heintio gyda P ramorum

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clustnodi 拢2 filiwn er mwyn ceisio atal haint sy'n bygwth marchnadoedd coed a chynefinoedd eraill yng Nghymru.

Mae'r corff newydd yn bwriadu gwario hanner miliwn o bunnoedd ar unwaith i fynd i'r afael 芒 Phytophthora ramorum (P ramorum) sy'n effeithio ar goed llarwydd drwy dorri coed ar hyd ymylon ardaloedd heintiedig i geisio atal ymlediad yr haint.

Bydd y strategaeth frys hefyd yn cynnwys prawf arloesol i ganfod a fyddai chwistrellu coed 芒 chwynladdwyr cyffredin yn gallu arafu ymlediad y clefyd.

Bydd CNC yn gwario 拢1.7m pellach ar gael gwared 芒 choed wedi'u heintio ac ailblannu coed newydd.

'Pryderus'

Dywedodd Trefor Owen o CNC: "Mae'r ymateb hwn yn dangos pa mor bryderus ydym ni ynghylch y clefyd hwn oherwydd ei effaith ar farchnadoedd coed, y tirwedd, coetir a chynefinoedd eraill.

"Rydym yn deall y pryder y mae hyn yn ei achosi i'r sector coedwigaeth preifat a chymunedau yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a pherchnogion coedwigoedd yr effeithiwyd arnynt i weld sut y gallwn ni leihau effeithiau economaidd ac effeithiau eraill."

Mae'r clefyd yn lledaenu o goeden i goeden drwy sborau yn yr aer, ac mae wedi symud yn gynt na'r hyn yr oedd arbenigwyr wedi'i ddisgwyl.

2.5 miliwn o goed

Mae'r haf gwlyb wedi creu'r amodau gorau posibl ar gyfer lledaenu'r clefyd yn ogystal.

Dangosodd arolygon diweddar bod 2,500 hectar o heintiad newydd yng Nghymru - tua 2.5 miliwn o goed - ac mae tua 1,200 hectar o goed llarwydd eisoes wedi'u cwympo ers i'r haint ddod i'r amlwg am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2010.

Ychwanegodd Mr Owen bod modd defnyddio'r pren o goed heintiedig i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch pren.

Dywedodd hefyd nad yw'r clefyd yn beryglus o gwbl i iechyd pobl nac anifeiliaid, ond y gallai pobl gynorthwyo i leihau ymlediad yr haint drwy gymryd camau syml fel cael gwared ar fwd, deunydd planhigion neu ddail oddi ar ddillad, esgidiau, c诺n a theiars cerbydau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol