Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmniau cyfathrebu: angen gwneud mwy i atal sgamio
Mae elusen Age Cymru yn dweud y dylai cwmn茂au cyfathrebu wneud mwy i atal twyllwyr rhag medru cysylltu gyda phobl h欧n.
Yn 么l yr elusen, mae'r cwmn茂au yn anfwriadol yn gwneud arian o weithgareddau unigolion sydd yn twyllo.
Maen nhw'n dweud bod yna gyfrifoldeb ar wasanaethau megis y Post Brenhinol a darparwyr ffon a'r we i wneud yn si诺r bod pobl h欧n ddim yn cael eu targedu.
5%
Trwy gais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mi wnaeth Age Cymru ddarganfod fod mwy na 2,500 o sgamiau wedi cael eu hadrodd i adrannau safonau masnach rhwng Chwefror 2012 a Chwefror eleni yng Nghymru.
Ond mae'r Swyddfa Fasnach yn amcangyfrif fod y ffigwr mewn gwirionedd yn llawer iawn uwch am mai dim ond rhyw 5% o achosion o sgamiau sydd yn cael eu cofnodi.
Yn aml pan mae unigolyn yn dweud am ei brofiad dyw'r drwgweithredwyr ddim yn cael eu herlyn ac mae manylion y dioddefwr yn aml yn cael eu rhannu gyda chylch mwy eang o droseddwyr.
Mae'r elusen yn dweud bod pobl h欧n sydd yn cael eu twyllo ar gyfartaledd yn colli 拢1,200 yr un.
Gwneud mwy
Ar hyn o bryd mae llythyrau, boed y rhain yn dwyllodrus neu beidio yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad ar yr amlen.
Ond dywed Age Cymru ei bod eisiau i Lywodraeth San Steffan gael gwared ag unrhyw rwystrau deddfwriaethol sydd yn atal y Post Brenhinol rhag ymyrryd.
Yn ei tyb nhw mi ddylai'r gwasanaeth adrodd post amheus pan maent yn amau bod rhywun yn cael ei sgamio.
Fe ddylai gwasanaethau ffon a darparwyr y we hefyd ddefnyddio technoleg a phrotocol gwell er mwyn ceisio lleihau'r e-byst a negeseuon ff么n y mae pobl yn derbyn gan dwyllwyr.
Fel rhan o'r ymgyrch bydd yr elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ledaenu ardaloedd lle y gwneir hi'n glir nad oes croeso i bobl guro ar ddrysau trigolion heb wahoddiad.
Gelwir y llefydd yma yn Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad ac mae Age Cymru yn dweud eu bod wedi arwain at lai o droseddau.
Twyll
Mae Age Cymru yn clywed am straeon o unigolion yn cael eu twyllo yn barhaus ac mae'n gallu achosi straen ar y teulu.
Dywed un ferch o ogledd Cymru bod ei mam hi yn dal i gael ei scamio ond nad yw'n fodlon derbyn hyn. Mi ddechreuodd gael ei thwyllo pan oedd yn nyrsio ei g诺r:
"Ychydig cyn iddo farw, roedd o dan straen mawr ac roedd angen iddi bellhau ei hun. Efallai ei bod hi wedi rhoi cynnig ar loter茂au tramor, nid yw'n gallu cofio, ac yn bendant, archebodd lawer o bethau nad oedd eu hangen arni er mwyn cymryd rhan mewn cystadlaethau, yn enwedig ychydig ar 么l ei farwolaeth.
"Treuliodd amser wedyn yn ysgrifennu at gwmn茂au yn gofyn ble yr oedd y gwobrau yr oeddent wedi'u haddo. Roedd wedi bod yn briod ers 50 mlynedd ac roeddent wastad gyda'i gilydd.
"Sylweddolom fod hyn yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach ar 么l cael mynediad at ei llyfr siec i'w helpu i dalu ei biliau, a gwelsom ei bod yn anfon cyfartaledd o 拢70 yr wythnos at y sgamwyr hyn.
"Rwyf wedi esbonio iddi mai sgamiau yw'r rhain, ond nid yw eisiau credu hyn ac mae'n benderfynol y bydd yr arian y bydd hi'n ei ennill ar ein cyfer ni, ei phlant.
"Rydym wedi erfyn arni i stopio gan ein bod ni dan gymaint o straen o'r herwydd. Mae fy mam yn ei wythdegau hwyr, yn ddeallus ac yn ei iawn bwyll, ar wah芒n i hyn. "
Cefnogaeth
Mae ystod o Aelodau Seneddol Cymreig ac Aelodau Cynulliad wedi datgan eu bod yn cefnogi ymgrych Age Cymru ac mae'r elusen yn dweud ei bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Pobl H欧n a safonau masnach i geisio taclo'r broblem.
Yn 么l cydlynydd ymgyrchoedd yr elusen Gerry Keighley, mae yna ymgyrchoedd i geisio rhybuddio pobl h欧n o beryglon e-bost a llythyrau sgam ond dyw hynny ddim yn ddigon.
"Rydyn ni yn pryderu yn enwedig am bobl h欧n sydd wedi eu hynysu, sydd efallai yn dioddef o ddementia, sydd gyda arian ac sydd yn cael eu targedu gan dwyllwyr.
"Mae'n bryd i'r cwmn茂au sydd yn gwneud arian trwy eu rhwydweithiau gyda rhain i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y broblem."