Clegg: rhai yn 'synnu ar yr ochr orau' i adroddiad Silk

Disgrifiad o'r llun, Roedd Nick Clegg yn ateb cwestiynau ASau yn Nh欧'r Cyffredin

Mae dirprwy arweinydd Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd y rhai sydd o blaid mwy o bwerau i Gymru yn cael eu 'synnu ar yr ochr orau' gydag ymateb y llywodraeth i adroddiad Silk.

Wrth ateb cwestiynau ASau yn Nh欧'r Cyffredin dywedodd Nick Clegg fod ymateb y llywodraeth i'r ddogfen wedi bod yn flaengar.

Roedd yr adroddiad cyntaf Silk a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2012 wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael grymoedd i amrywio treth incwm erbyn y flwyddyn 2020.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi y dylai'r llywodraeth ym Mae Caerdydd fod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb.

Datganoli trethi bach fel toll teithwyr awyr a stamp oedd rhai o'r argymhellion eraill.

Ganol Mehefin fe gyfaddefodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones y byddai yna oedi cyn y byddai ymateb yn dod gan lywodraeth San Steffan.

Dywedwyd mai'r rheswm am hyn oedd bod rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad gydag oblygiadau i weddill y Deyrnas Gyfunol.

Ar hyn o bryd mae Comisiwn Silk, sydd yn cael ei gadeirio gan Paul Silk, yn ystyried y pwerau presennol sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Dyma ran dau o'r gwaith a byddant yn cyhoeddi'r adroddiad hwn yng ngwanwyn 2014.