Eisteddfod Llangollen: 34,000 o ymwelwyr

Disgrifiad o'r llun, Diolchodd y trefnwyr i'r holl berfformwyr a gwirfoddolwyr a ddaeth i'r 诺yl

Mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi dweud bod y digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda bron i 34,000 o ymwelwyr i'r 诺yl.

Roedd y nifer yn 17% yn uwch na ddaeth y llynedd.

Gan gynnwys cystadleuwyr a gwirfoddolwyr, roedd dros 37,000 o bobl wedi ymweld 芒'r maes dros y 6 diwrnod.

Dywedodd trysorydd yr Eisteddfod, Selwyn Evans bod yr Eisteddfod wedi cyrraedd y targed o 拢440,000 o incwm o docynnau.

Mwy atyniadol

"Roedd hi'n eisteddfod wych eleni gyda nifer fawr o ymwelwyr yn dod yn y tywydd bendigedig, ac roedd nifer yr ymwelwyr ar y maes yn ystod y dydd yn arbennig o dda," meddai.

"Mae gennym ni gyngherddau gwych bob blwyddyn, a doedd eleni ddim yn eithriad ond fe wnaethon ni ymdrech arbennig i wneud y gweithgareddau ar y maes yn fwy atyniadol, ac mae hynny wedi gweithio."

Jools Holland oedd prif atyniad yr Eisteddfod eleni, denodd bron i 4,000 o bobl i'r pafiliwn ar y noson olaf.

Roedd hefyd perfformiadau gan y Buena Vista Social Club, a chor Only Men Aloud.

Diolch

Diolchodd y prif weithredwr, David Neal i'r holl wirfoddolwyr roddodd eu hamser i'r digwyddiad, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf yn barod.

"Ein tasg yw i fywiogi enw'r digwyddiad a hefyd sicrhau ein bod yn cadw at draddodiadau'r Eisteddfod."

"Mae angen i ni hefyd wella cysylltiadau gyda'r economi leol a gweithio yn agos gyda busnesau lleol i ddenu buddsoddiad i mewn i'r ardal."