Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Os byw ac iach
- Awdur, Vaughan Roderick
- Swydd, Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒
Fel arfer mae dyddiau'r c诺n wedi hen gyrraedd ystafelloedd newyddion Cymru erbyn wythnos olaf Gorffennaf. Gyda'n seneddau, cynghorau a'r llysoedd i gyd ar wyliau rhaid llenwi rhaglenni 芒 straeon ynghylch tannau eithin, ymosodiadau gan f么r-wiberod a chyflwr y diwydiant twristiaeth.
Nid felly eleni. Mae isetholiad M么n yn cadw ni i fynd wrth reswm ond ar ben hynny mae 'na lif o straeon, ddyddiol bron, ynghylch cyflwr Gwasanaeth Iechyd Cymru. Dyw'r straeon hynny ddim yn adlewyrchu'n dda ar y Gwasanaeth na'r gwleidyddion sy'n gyfrifol amdano.
Efallai bod hi o ryw faint o gysur i Carwyn Jones bod Gwasanaeth Iechyd Lloegr yn denu'r un fath o benawdau anffafriol ar hyn o bryd ac hyd yma dyw hi ddim yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn talu pris gwleidyddol am y sefyllfa.
Yn 么l yr arolygon barn diweddara fe fyddai'r bleidlais etholaethol i Lafur mewn etholiad Cynulliad ond pwynt neu ddau'n is nac y byddai hi mewn etholiad cyffredinol. P'un ai y byddai hynny'n wir ai peidio ar ddiwedd ymgyrch sy'n fater arall.
Heb os fe fydd Carwyn Jones yn ymwybodol o'r angen i wella cyflwr y gwasanaeth cyn yr etholiad nesaf ond sut mae gwneud hynny heb gynnydd sylweddol yn y gwariant - cynnydd a fyddai'n gorfod dod ar draul adrannau eraill y Llywodraeth.
Mae 'na hen ddigon o leisiau tu mewn i'r Gwasanaeth sy'n mynnu taw diffyg adnoddau sydd wrth wraidd y trafferthion. Beth bynnag y gwnewch chi o safbwynt ad-drefnu, meddir, fe fydd y cyfan yn ofer heb adnoddau ychwanegol.
Beth pe bai Carwyn yn penderfynu bod y lleisiau hynny'n iawn ac yn penderfynu cynyddu si芒r y gwasanaeth iechyd o gacen y Llywodraeth? Er mwyn gwneud hynny, os nad yw Ynys M么n yn newid y fathemateg, fe fyddai'n rhaid sicrhau cefnogaeth un o'r gwrthbleidiau yn y Bae.
Gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithio a'i gilydd er mwyn sicrhau cynnydd yn y gwariant ar yr economi ac addysg gallai sicrhau cefnogaeth y naill blaid, y llall neu'r ddwy fod yn anodd.
Wrth gwrs mae 'na un wrthblaid sydd wedi galw'n gyson am gynyddu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Y Blaid Geidwadol yw'r blaid honno ond mewn cynhadledd newyddion ddiweddar fe wnaeth Carwyn Jones hi'n eglur na fyddai'n troi at yr hen elyn am gymorth wrth lunio ei gyllideb.
Gellir gweld hynny fel safiad egwyddorol neu fel y Prif Weinidog yn cornelu ei hun. Mae 'na bosibilrwydd arall.
Efallai bod Carwyn wedi gofyn y cwestiwn yma i'w hun. "Ydy Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol am gael ei gweld yn gwrthwynebu gwario rhagor ar iechyd?"
Mae'n gwestiwn da - a ddaw ateb?