Di-sgor yn y g锚m rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Doedd hi ddim yn g锚m gofiadwy i'r gwylwyr

Di-sgor oedd hi yn y g锚m gyfeillgar rhwng t卯m p锚l-droed Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn stadiwm Dinas Caerdydd.

Doedd hi ddim yn g锚m gyffrous i'r gynulleidfa nac yn un gofiadwy.

Y chwaraewr Shane Long gafodd y cyfle gorau i Weriniaeth Iwerddon yn ystod y g锚m dwywaith ac er i Johnny Williams a Craig Bellamy geisio sgorio dros Gymru ofer oedd eu hymdrechion.

Er bod Gareth Bale wedi ymuno yn sesiwn hyfforddi Cymru ddydd Llun, gwylio o'r fainc oedd o yn dilyn anaf i'w droed.

Fe ddaeth Gweriniaeth Iwerddon yn agos at sgorio gyda deg munud i fynd tan y chwiban olaf gyda Shane Long yn dod yn agos at rwydo.

Cafodd honno ei hatal a llwyddodd capten Cymru Ashley Williams i atal cyfle arall gan Paddy Madden.