Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Undeb diffoddwyr o blaid streicio
Mae aelodau o undeb y frig芒d d芒n yr FBU ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban wedi pleidleisio o blaid gweithredu mewn anghydfod am bensiynau.
Gallai'r bleidlais arwain at y streic gyntaf gan ddiffoddwyr t芒n ers dros ddegawd.
Pleidleisiodd 78% o aelodau'r FBU o blaid y cynnig.
Mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi mynegi siom at y canlyniad gan ddweud y byddai diffoddwyr yn derbyn "un o'r pensiynau mwyaf hael yn y sector cyhoeddus".
O dan gynllun y llywodraeth byddai diffoddwyr ond yn derbyn y pensiwn llawn pan yn 60 oed, ac fe ddywed yr undeb y byddai'r rhai sy'n ymddeol yn gynt yn colli miloedd o bunnau'r flwyddyn.
Dywedodd yr undeb hefyd na fyddai diffoddwyr yn medru cadw'n ddigon heini yn eu 50au hwyr i gyflawni gofynion y swydd ac y byddai hynny'n peryglu'r cyhoedd.
'Arwydd o ddicter'
Mewn datganiad dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU Matt Wrack: "Fedrwn ni ddim disgwyl i nifer fawr o ddiffoddwyr yn eu 50au hwyr i frywdro tanau ac achub teuluoedd heb greu perygl i'r cyhoedd ac i ddiffoddwyr.
"Rydym wedi mynegi pryderon am ddiogelwch droeon ac wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r pryderon ond dyw'r llywodraeth ddim yn gwrando.
"Mae'r canlyniad (y bleidlais) yn arwydd clir o'r dicter y mae diffoddwyr yn ei deimlo, ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i weld synnwyr cyffredin os yw'r llywodraeth yn fodlon dychwelyd i'r bwrdd trafod.
"Does yr un ohonom am weld streic, ond does dim modd i ni gyfaddawdu ar ddiogelwch diffoddwyr na'r cyhoedd."
Dyw'r undeb heb gyhoeddi dyddiadau am weithredu diwydiannol, ond yn 么l y gyfraith rhaid i streic ddigwydd o fewn 28 diwrnod i'r bleidlais.
'Cynllunio manwl'
Wrth ymateb i'r canlyniad dywedodd Prif Swyddog Cynorthwyol Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies:
"Does dim dyddiadau am weithredu diwydiannol wedi cael eu cyhoeddi ac yn amlwg rydym yn gobeithio bod modd datrys yr anghydfod cenedlaethol yma o hyd.
"Yn y cyfamser bydd y cynllunio manwl wrth gefn yr ydym wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau diwethaf yn parhau.
"Ein nod yw darparu'r gwasanaeth mwyaf y gallwn i'r cyhoedd gan ddefnyddio staff fydd ddim yn rhan o'r gweithredu."