Caniat芒d i godi 250 o dai ym Mangor

Disgrifiad o'r llun, Redrow sydd am godi 250 o dai

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi cymeradwyo cais cwmni Redrow i godi 250 o dai yn ardal Penrhosgarnedd, Bangor.

Hwn fydd y datblygiad tai mwyaf ym Mangor ers 40 mlynedd ac roedd yna wrthwynebiad lleol i'r cais.

Yn 么l cynllunwyr, mae angen dros 800 o dai newydd yn y ddinas yn ystod y blynyddoedd nesaf.

86 o'r tai

Maen nhw wedi dweud y bydd 86 o'r tai yn fforddiadwy ac wedi cyfadde' y bydd yna rywfaint o s诺n tra bod y datblygiad yn digwydd.

Ond maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n trefnu sgrin acwstig i leihau'r s诺n.

Tra'n cydnabod y bydd effaith ar ysgolion lleol, dywedodd y datblygwyr y byddan nhw'n cyfrannu arian fel bod modd cyflwyno gwelliannau i'r ysgolion.

Ond barn rhai yn lleol yw bod y datblygiad yn rhy fawr.

"Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw wedi gweithio hynny allan (yr angen am 800 o dai)," meddai Jim Hughes sydd wedi casglu cannoedd o enwau ar ddeiseb.

Traffig

"Os sbiwch chi o gwmpas, mae 'na nifer o dai 'to let' a rheiny heb eu gwerthu ers blwyddyn."

Roedd rhai'n poeni am yr effaith ar draffig, yn enwedig o gofio bod tagfeydd yn aml yn yr ardal.

Mae'r safle 24 erw yn ffinio'r A55 ar un ochr ac Ysbyty Gwynedd ar y llall.