'Dim benthyca heb dreth incwm'

Disgrifiad o'r llun, Mae Gerry Holtham yn ymgynghorydd i'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt

Mae un o ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd y Trysorlys yn rhoi mwy o bwerau benthyca i Gymru oni bai bod rhai pwerau i gasglu treth incwm yn cael eu datganoli.

Datgelodd Gerry Holtham hefyd bod cynllun gwahanol dan drafodaeth i adeiladu ffordd liniaru traffordd yr M4 gan ddefnyddio arian o incwm tollau Pontydd Hafren wedi iddyn nhw ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Mae Mr Holtham - a gadeiriodd gomisiwn ar sut y dylid ariannu Cymru yn y dyfodol - yn ymgynghorydd i'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar fuddsoddi mewn isadeiledd.

Mae gweinidogion o Gymru wedi bod yn dadlau y dylen nhw gael triniaeth gyfartal 芒'r Alban o safbwynt cael yr hawl i fenthyg er mwyn talu am gynlluniau isadeiledd fel ffyrdd, ysgolion ac ysbytai.

Ar hyn o bryd dydyn nhw ond yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am drethi llai fel treth stamp a threth teithwyr awyr, ac fe ddywed Mr Holtham na fydd hynny'n ddigon i sicrhau pwerau i fenthyg dros biliwn fel y mae Llywodraeth Cymru yn galw amdano.

Wedi misoedd o drafodaethau y tu 么l i ddrysau caeedig rhwng llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd am y mater, fe fydd cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig yn yr hydref.

'Dal eu tir'

Disgrifiad o'r llun, Bydd Pontydd Hafren yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru dywedodd Mr Holtham: "Safbwynt y Trysorlys hyd yma yw eu bod am ildio pwerau benthyg i Gymru pan fydd Cymru'n derbyn pwerau trethu incwm.

"Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylwn ni gael pwerau benthyg sy'n gymesur 芒 refeniw. Trethi bychain fyddai'r rhain felly ni fyddai'r pwerau benthyg yn fawr, ond dyna'r egwyddor.

"Ond mae'r Trysorlys yn dal eu tir ac yn dweud mai dim ond trwy godi treth incwm y daw pwerau benthyg."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai angen refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm i Gymru, gan olygu y byddai pwerau benthyg flynyddoedd i ffwrdd os yw'r Trysorlys yn cadw at eu safbwynt.

Anghytuno

Daw sylwadau Mr Holtham wrth i Lleu Williams o fudiad 'DG Undeb sy'n Newid' ddweud mai'r dreth stamp yw'r dreth ddelfrydol i roi hwb i economi Cymru.

Ei ddadl yw bod treth stamp yn un eitha' hawdd i'w chasglu a'i gweinyddu a bod tystiolaeth o'r Alban yn awgrymu nad yw cael treth wahanol yno wedi rhwystro busnesau rhag adleoli i'r wlad.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dadlau sawl gwaith nad oes modd o fewn cyllideb bresennol Llywodraeth Cymru i dalu am gynlluniau fel ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd heb bwerau benthyca.

Pontydd Hafren

Ond ychwanegodd Mr Holtham bod trafodaethau ar wah芒n yn ymwneud 芒 thollau Pontydd Hafren allai ddatrys y sefyllfa.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 news grab

Disgrifiad o'r llun, Gallai'r Trysorlys adael i Gymru ddefnyddio incwm o dollau Pont Hafren er mwyn benthyca ar gyfer cynllun yr M4

Bydd y pontydd yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018, ac mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dadlau y dylid cwtogi'r gost o groesi'r pontydd bryd hynny er mwyn rhoi hwb i economi Cymru.

Ond dywedodd Mr Holtham: "Mae'r M4 yn fater arall. Mae posibilrwydd y gallai'r Trysorlys ganiat谩u i beth o'r arian sy'n cael ei roi mewn tollau i groesi'r Hafren gael ei ddefnyddio i dalu am yr M4.

"Dwi'n cael yr argraff bod llywodraeth y DU o blaid yr M4 ac yn deall nad yw cyllideb cyfalaf Cymru yn ddigon - maen nhw felly'n fodlon ystyried rhywbeth felly.

"Dwi'n dyfalu y byddan nhw'n rhoi peth o'r arian tollau er mwyn medru benthyca ar gyfer yr M4 - rhywbeth fel yna."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar 12 Gorffennaf, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y dylai Llywodraeth Cymru gael mynediad cynnar i bwerau benthyg er mwyn ariannu cynllun gwella'r M4 yn ne Cymru.

"Roedd hyn yn cadarnhau'r sefyllfa gafodd ei gytuno fis Hydref y llynedd.

"Nid ydym ni yn ymwybodol o unrhyw newid yn safbwynt Llywodraeth Prydain yn ymwneud a mynediad i bwerau benthyg ers hynny."

Wrth i'r cyhoeddiad am Gomisiwn Silk nes谩u, mae'n amlwg felly bod trafodaethau brwd yn digwydd y tu 么l i'r llenni ar faterion sy'n allweddol i ddyfodol datganoli yng Nghymru.