Taclo clefyd sydd wedi heintio coed ger Taith Goedwig Cwmcarn
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried sut i leihau effaith clefyd sydd wedi heintio coed llarwydd o gwmpas Taith Goedwig boblogaidd Cwmcarn ger Casnewydd.
Dywedodd y corff, sy'n gofalu am amgylchedd Cymru, eu bod yn ystyried yr opsiynau ar 么l i arolwg o'r awyr ym mis Mai ddangos bod ffwng Phytophthora ramorum, sy'n achosi i'r coed bydru, yn bresennol.
Mae 78% o'r goedwig yn goed llarwydd a bydd yn rhaid torri rhan helaeth o'r coed am eu bod yn cynhyrchu sborau sy'n gallu lledaenu'r clefyd i ardaloedd eraill a rhywogaethau coed eraill.
Nid yw'r clefyd yn niweidiol i bobl nac anifeiliaid.
Dywedodd Sally Tansey o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n rhedeg y ganolfan ymwelwyr, i leihau'r effaith economaidd ac effeithiau eraill ar yr ardal i'r eithaf a byddwn yn rhoi gwybod yn gyson i ymwelwyr a chymunedau lleol sut yr ydym yn bwriadu symud ymlaen.
"Yn anochel, bydd y gwaith hanfodol hwn golygu bod rhaid cau rhannau o'r goedwig dros dro am resymau diogelwch tra bydd gwaith coedwigaeth yn cael ei wneud ond byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y cwympo yn mynd rhagddo gan darfu cyn lleied 芒 phosib ar y llwybrau troed a'r llwybrau beicio mynydd."
'Atyniad poblogaidd'
Mae Taith Goedwig Cwmcarn yn saith milltir o hyd drwy un o goedwigoedd trefol mwyaf Cymru, yng nghanol cymoedd de Cymru.
"Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni yn troi Coedwig Cwmcarn, gyda'i Thaith Goedwig a'i llwybrau beicio mynydd lawr rhiw a thraws gwlad, yn un o'r atyniadau awyr agored mwyaf poblogaidd yn y De, gyda mwy na 70,000 o ymweliadau'r flwyddyn," meddai Ms Tansey.
"Bydd cwympo'r coed yn gyfle inni i edrych eto ar yr atyniad pwysig hwn ac ystyried sut y gallwn wella'i ymddangosiad drwy blannu amrywiaeth o goed fel y gall yr ardal wrthsefyll ymosodiadau pl芒u a chlefydau yn well yn y dyfodol."
Yn y cyfamser, mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerffili'n gweithio ar gynllun buddsoddi i weld sut y gellid datblygu mwy o gyfleoedd hamdden o gwmpas y ganolfan ymwelwyr.
Mae dau lwybr beicio mynydd newydd i fod i agor ym mis Rhagfyr ac mae'r cyngor yn buddsoddi er mwyn datblygu'r ganolfan ymwelwyr, gan ychwanegu uned gwerthu a llogi beiciau mynydd ynghyd 芒 chyfleusterau eraill fel toiledau a chawodydd.
'Allweddol'
Dywedodd y Cynghorydd Ken James, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Adfywio: "Mae Coedwig Cwmcarn yn un o'n cyrchfannau ymwelwyr allweddol yn y fwrdeistref sirol ac rydym am sicrhau ein bod yn tarfu cyn lleied 芒 phosib arni.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gwaith priodol yn cael ei wneud i fynd i'r afael 芒'r broblem hon er lles pennaf yr atyniad cefn gwlad gwych hwn."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi neilltuo dros 拢2m eleni i ymladd clefyd Ramorum ar draws Cymru ac mae wedi llunio Cynllun Rheoli Clefydau ar gyfer Llarwydd yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwneud popeth y gallwn ar draws Cymru i atal y clefyd a lleihau'i effaith ar econom茂au lleol ac ar fwynhad pobl o ardal fel Coedwig Cwmcarn."
Bydd y Daith Goedwig a'r llwybrau beicio mynydd yn parhau yn agored i'r cyhoedd fel arfer gydol y gaeaf a haf 2014 ond dylai ymwelwyr ufuddhau i arwyddion bioddiogelwch a helpu i atal y clefyd rhag lledaenu drwy gymryd camau syml fel clirio unrhyw laid, darnau o blanhigion neu ddail oddi ar ddillad, esgidiau, c诺n a theiars ceir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2013
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013