Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Caerffili: 拢500,000 o daliadau anghyfreithlon
Fe wnaeth cyngor sir wneud bron 拢500,000 o daliadau anghyfreithlon, gan gynnwys codiadau cyflog i uwchswyddogion, yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf.
Dywedodd archwilwyr fod Cyngor Caerffili wedi gwario 拢270,364 yn anghyfreithlon y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae adolygiad pellach yn dangos bod 拢218,563 ychwanegol hefyd wedi ei wario yn anghyfreithlon.
Mae'r cyngor wedi dweud bod archwilwyr yn bwrw golwg ar y taliadau.
拢488,000
Yn 么l cyfrifon y sir, roedd yna 拢488,000 o daliadau anghyfreithlon.
Mae'r cyfrifon ar gyfer 2012-13 yn dangos bod y 拢218,563 ychwanegol wedi ei wario ar lwfans ceir a swyddogion yn prynu dyddiau gwyliau yn 么l.
Mae'r taliadau yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon am fod penderfyniadau wedi eu gwneud gan bobl heb awdurdod priodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Rydym wedi cael gwybod gan Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn ystyried taliadau i uwchswyddogion yn ymwneud 芒 lwfans car a gwyliau'n 'wariant anghyfreithlon'.
"Rai misoedd yn 么l penderfynon ni gyfeirio'r mater i'r archwilwyr allanol ac mae'r mater yn parhau i fod dan ymchwiliad.
"Rydym yn aros am eu penderfyniad."
Taliadau cyflog
Mae'r taliadau diweddaraf wedi penderfyniad y Swyddfa Archwilio fod 拢270,364 eisoes wedi ei roi mewn taliadau anghyfreithlon.
Mae'r cyfrifon yn dangos bod pump uwchswyddog, gan gynnwys y prif weithredwr Anthony O'Sullivan, wedi derbyn taliadau cyflog anghyfreithlon gwerth 拢94,081.
Cafodd Mr O'Sullivan daliadau gwerth 拢25,182.
Wedi'r ymchwiliad cafodd Mr O'Sllivan a'i ddirprwy Nigel Barnett eu gwahardd o'u swyddi.
Dywedodd y Swyddfa Archwlio fod yna sawl rheswm pam y dylid ystyried y taliadau yn anghyfreithlon, gan gynnwys y ffaith fod uwchreolwyr yn bresennol mewn cyfarfodydd wrth i'w cyflogau gael eu trafod.