Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfri'r Ceiniogau
- Awdur, Vaughan Roderick
- Swydd, Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒
Dyna ni felly. Mae'r gyllideb ddrafft wedi ei chyhoeddi ac am y tro cyntaf yn y cynulliad hwn fydd 'na ddim drama ynghylch ei chymeradwyo.
Gyda Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i ymatal yn y bleidlais allweddol gall adrannau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan wybod yn fras beth yw eu tynged.
Mae 'na ragor o fanylion i ddod ond rydym yn gwybod digon yn barod i allu barnu pwy yw'r buddugwyr a phwy fydd ar eu colled ar ddiwedd gem gyllidebol 2013.
Ar eu hennill
Heb os yr enillydd mawr yn y gyllideb yw'r Gwasanaeth Iechyd. Fe fydd y gwasanaeth yn derbyn 拢570 miliwn ychwanegol dros gyfnod o dair blynedd. Ydy hynny'n ddigon i gwrdd 芒'r galw? Nac ydy. Does 'na byth ddigon o arian i gwrdd 芒'r galw - ond ar 么l blynyddoedd o doriadau yn nhermau real fe fydd na ambell ochenaid o ryddhad yn ystafelloedd bwrdd y byrddau iechyd.
Hefyd ar ei hennill - neu o leiaf ar lai o golled na'r disgwyl, mae cynllun "Cefnogi Pobl". Cynllun yw hwn sy'n rhoi cymorth i bobl digartref neu sydd mewn peryg o fynd yn ddigartref. Roedd 'na ddarogan y byddai'r cynllun yn wynebu toriadau o oddeutu 5%. Ar 么l lobio grymus fel rhan o'r cytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol daethpwyd o hyn i 35.5 miliwn i leddfu ar y toriad.
Dau enillydd arall yw Leanne Wood a Kirsty Williams. Profodd eu penderfyniad i gydweithio er mwyn rhwystro'r Llywodraeth rhag chwarae'n naill blaid yn erbyn y llall yn dacteg effeithiol gyda'r ddwy blaid ar ei hennill.
Ar eu colled
Does dim dwywaith taw Llywodraeth Leol sy'n mynd i deimlo'r boen fwyaf dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r Cynghorau yn wyneb toriadau o naw y cant dros y ddwy flynedd nesaf ar 么l cymryd chwyddiant i ystyriaeth.
Gan fod llawer o'r arian y mae cynghorau'n derbyn eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer pethau gwasanaethau gofal a'r ysgolion bydd dim dewis ond colbio pethau fel y gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a'r celfyddydau.
Un gair o gyngor. Mae'n cymryd peth amser i fynd trwy'r gyllideb a chrib man. Argraffiadau cyntaf yw'r uchod. Efallai y bydd gennyf ragor i ddweud.