Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diweithdra: 'Angen arian Ewrop,' medd yr ASE Jill Evans
- Awdur, Alun Jones
- Swydd, Newyddion Ar-lein
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw am arian Ewropeaidd i fynd i'r afael 芒 diweithdra hirdymor ymhlith yr ifanc yng Nghymru.
Gwnaeth yr alwad wrth annerch cynhadledd ei phlaid yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Yn 么l Ms Evans, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo 6m Ewro i ranbarthau a chenhedloedd Ewropeaidd lle ceir cyfradd diweithdra ieuenctid o fwy na 25%.
Ond mae "Cymru'n colli allan" ar nawdd ychwanegol, medd hi, gan fod diweithdra pobl ifanc yn 22% ar hyn o bryd.
'Niweidio'
Mae'n poeni am effaith diweithdra hirdymor ar bobl ifanc, gan ei fod yn "niweidio hunan-hyder a chyfleoedd bywyd ar gyfer y dyfodol, gan olygu fod risg na fydd y bobl ifanc hyn fyth yn cyflawni eu potensial".
Ei dadl yw bod rhoi diwedd ar y diweithdra hirdymor "yn rhan allweddol o greu cymdeithas well i Gymru".
Yn 么l yr ASE: "Mae nifer y bobl ifanc sydd allan o waith am fwy na 12 mis bedair gwaith yn fwy nag yr oedd ddwy flynedd yn 么l - o 1,400 o bobl i 5,7000.
"Gall mynediad i nawdd o'r cynllun Ewropeaidd hwn nodi'r gwahaniaeth rhwng oes o waith ac oes o ddiweithdra ar gyfer y bobl ifanc.
"Bydd Plaid Cymru yn lob茂o yn Ewrop ac ar bob lefel i Gymru gael mynediad i'r nawdd hwn fel y gallwn ddod o hyd i waith i'r bobl hyn."
'Penderfyniadau positif'
Rhoddodd y cynadleddwyr groeso cynnes i'r llwyfan yn ystod y prynhawn i Aelod Cynulliad mwya' newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth. Yn ei araith, dywedodd yr Aelod dros Ynys M么n ei fod yntau, " a phawb sy'n aelodau o Blaid Cymru, wedi dweud wrth ein hunain ein bod ni am ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddyfodol ein cenedl ni".
Ychwanegodd fod pob un sydd wedi pleidleisio dros Blaid Cymru wedi penderfynu "ein bod ni ddim yn hapus i bleidleisio heb feddwl, 'da ni am 'neud penderfyniad positif dros ein cymunedau a dros ddyfodol Cymru".
Rhoddodd deyrnged i waith ei ragflaenydd ar yr ynys, y cyn Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, a ddangosodd, meddai, "sut beth ydi Plaid Cymru mewn llywodraeth genedlaethol - sut mae Plaid Cymru'n gallu torchi llewys a mynd i'r afael 芒 rhai o wir broblemau Cymru, a sut mae'r Blaid yma'n barod i gymryd camau dewr ac arloesol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol".
Soniodd am rai o gyflawniadau'r blaid tra mewn llywodraeth "fel atal ysbytai rhag cael eu hisraddio, i roi statws swyddogol i'r Gymraeg am y tro cynta', sefydlu'r Coleg Cenedlaethol - gymaint o gamu bras mewn un cyfnod o lywodraeth".
Nod y blaid nawr, meddai, yw "trawsnewid" Cymru, a hynny "efo t卯m Plaid Cymru yn arwain llywodraeth fwyafrif".
Cyfiawnder
Yn ei araith yntau, galwodd Elfyn Llwyd AS ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno Mesur Hawliau Dioddefwyr, a hynny er mwyn "rhoi dioddefwyr trosedd yn 么l wrth galon y broses gyfiawnder".
Dywedodd Mr Llwyd, arweinydd Gr诺p Plaid Cymru yn San Steffan, bod rhaid i'r llywodraeth wneud mwy i atal dioddefwyr rhag dioddef "erledigaeth yn sgil triniaeth wael o fewn y system cyfiawnder troseddol".
Yn 么l yr AS, aelod o Bwyllgor Cyfiawnder T欧'r Cyffredin, fe fyddai'r mesur yn rhoi p诺er i'r heddlu ddatgelu gwybodaeth am ymddygiad troseddwr i unrhyw bartner newydd.
Fe fyddai, medd ef, yn cyflwyno rhagdybiaeth na ddylai unrhyw un a gyhuddir o drosedd dreisgar neu rywiol ddifrifol gael eu rhyddhau ar fechn茂aeth oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Meddai: "Byddai ein cynllun yn rhoi grym i'r heddlu ddatgelu gwybodaeth am ymddygiad blaenorol troseddwr i unrhyw bartner newydd - i wneud yn si诺r, er enghraifft, bod partneriaid troseddwyr rhyw a gollfarnwyd yn cael gwybod am y ffaith honno cyn dechrau teulu eu hunain gyda'r person.
"Mae Plaid Cymru hefyd am weld gweithredu mwy cadarn i fynd i'r afael 芒 throseddau seiber oherwydd poblogrwydd cynyddol gwefannau cyfryngau cymdeithasol a rhannu gwybodaeth ar y rhyngrwyd, sy'n golygu ei bod yn haws nag erioed i gam-drin, bwlio, stelcian neu esgus bod yn rhywun arall ar-lein."
Ychwanegodd fod y blaid yn credu y dylid sefydlu Comisiwn Trawsbleidiol i edrych ar sut i ddelio 芒'r bygythiad cynyddol o drosedd a cham-drin ar y we ac y dylai'r comisiwn gynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau datganoledig, Senedd y DU a Senedd Ewrop.
Yn ystod y gynhadledd, cyhoeddwyd hefyd mai Dr Dafydd Trystan Davies, cyn Brif Weithredwr Plaid Cymru, yw'r cadeirydd newydd i olynu Helen Mary Jones.