Ceidwadwyr Cymreig eisiau cyfyngu ar gynnydd treth cyngor

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gyfyngu ar gynnydd mewn biliau treth cyngor

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gyfyngu ar gynnydd mewn treth cyngor yn 2014/15 er mwyn gwarchod preswylwyr rhag toriadau.

Y bwriad, meddai'r blaid, yw "lleihau effaith toriadau Llywodraeth Cymru i gyllidebau llywodraeth leol ar deuluoedd cyffredin".

Roedd y llywodraeth eisoes wedi diystyru cyflwyno cap ond y llynedd fe ddywedon nhw wrth gynghorau am beidio 芒 chynyddu biliau fwy na 5%.

Yn 么l Llafur, mae'r Ceidwadwyr yn "twyllo pobl yn fwriadol" ac y bydden nhw wedi cwtogi cyllid cynghorau 12.5%.

'Biliau uchel'

Ond dywedodd yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders: "Dros y tair blynedd ddiwetha', mae teuluoedd sy'n gweithio'n galed yng Nghymru wedi wynebu biliau treth cyngor uchel yn y DU am fod Llafur wedi gwrthod cais y Ceidwadwyr i gadw treth cyngor yr un fath.

"Roedd llywodraeth Lafur Carwyn Jones wedi gwrthwynebu deddfwriaeth fyddai'n caniat谩u refferendwm ar lefel lleol ar gynnydd treth cyngor, felly does gan deuluoedd ddim amddiffyniad o'r math a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.

"Heb gynnal refferendwm yn lleol, neu gadw biliau treth cyngor yr un fath, gallai teuluoedd cyffredin gael eu taro'n galed yn sgil y cytundeb yma ar y gyllideb.

"Rwy'n ofni y gallai cynghorau weld torri ar wasanaethau hanfodol neu gynyddu treth cyngor fel ateb hawdd yn hytrach nag agor y llyfrau i'r cyhoedd, cael gwared ar wastraff, rhannu adnoddau neu ddarparu gwasanaethau mwy modd mwy effeithlon sy'n rhoi gwell gwerth am arian.

"Fe ddylai Llywodraeth Lafur Cymru ystyried cyfyngu ar gynnydd mewn treth cyngor er mwyn amddiffyn pobl sy'n gweithio'n galed rhag cynnydd mewn treth cyngor."

'Twyllo yn fwriadol'

Ddydd Mawrth diwetha' cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth y byddai'r arian i lywodraeth leol yn gostwng o 拢4.648bn i 拢4.466bn yn 2014, toriad o 3.91% yn nhermau arian parod, neu 5.81% yn nhermau real.

Yn 么l llefarydd ar ran Lesley Griffiths AC, y gweinidog 芒 chyfrifoldeb dros lywodraeth leol: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn twyllo pobl Cymru'n fwriadol.

"Maen nhw wedi cyfadde' eu hunain, y bydden nhw'n torri cymaint 芒 12.5% ar gyllidebau llywodraethau lleol y flwyddyn nesa' - toriad fyddai'n creu niwed anhygoel i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru."

Bydd setliadau llywodraethau lleol yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher nesa'.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eisoes wedi dweud na allan nhw barhau i ddarparu'r gwasanaethau presennol, gan ychwanegu y bydd yna "effaith fawr ar y cyhoedd yng Nghymru".

Dywedodd y Prif Weithredwr Steve Thomas y byddai yna "fwy o bwysau ar dreth cyngor" unwaith y byddai'r setliadau wedi'u cyhoeddi.