大象传媒

'Pobl leol ddylai benderfynu'

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dafydd Elis-Thomas yn credu mai pobl leol ddylai wneud penderfyniadau am dyrbinau gwynt

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud na ddylai mewnfudwyr sy'n symud i Gymru geisio atal datblygiadau tyrbinau gwynt gan bobl leol.

Ond mae Sian Parri, sy'n aelod o Gyfeillion Ll欧n, yn credu bod gan y tyrbinau'r potensial i "ddinistrio'r" penrhyn wrth ddifetha'r golygfeydd.

Mae trigolion Penrhyn Ll欧n yn anghytuno'n chwyrn yngl欧n 芒 pha fath o ddyfodol sydd i dyrbinau gwynt yno.

Bydd pennod arbennig o Taro 9 nos Fawrth yn ystyried dwy ochr y ddadl

Prosiect cymunedol

Bydd y rhaglen yn ymweld ag arweinydd cynllun ynni yn Llanaelhaearn sy'n honni y gallai'r gymuned leol weld budd mawr o'r prosiect.

Dr Carl Clowes yw cadeirydd Antur Ynni Aelhaearn - cwmni cydweithredol sy'n ystyried y posibilrwydd o godi tyrbinau gwynt er mwyn buddsoddi'r arian yn 么l yn y gymuned.

Amcan y cynllun fyddai trawsnewid hen gapel yn feithrinfa a chanolfan gymunedol.

"Mae pobl yn pryderu at ei gilydd am eu bod nhw'n pryderu am yr effaith weledol ar yr ardal, ardal hanesyddol, tirwedd fendigedig sydd gennym ni," meddai Dr Clowes.

"Ond i mi - a dwi'n deud hyn wrth gyfeillion, Cyfeillion Ll欧n, cyfeillion eraill yn yr ardal sy'n gwrthwynebu o ran yr effaith ar y tirwedd - mae'r amgylchedd llawer iawn yn fwy na'r amgylchedd ffisegol.

"Mi fydda fo'n fuddugoliaeth beryg iawn tase ni'n cadw'r tirwedd yma yn union fel mae o am byth."

Ond dyw Sian Parri ddim yn cytuno.

'Ein Tryweryn ni'

Dywedodd Ms Parri: "Hwn ydi ein Tryweryn ni medda' nhw - ac yn sicr does yna ddim golygfa dristach i mi yn hanes Cymru na'r criw bach o bobl yn rhedeg i lawr y llethr ar 么l i Cwm Celyn gael ei foddi.

"Trist iawn fydd dod i L欧n hefyd dipyn o flynyddoedd o rwan a'r lle wedi ei ddinistrio a'r golygfeydd wedi eu difetha'."

Cafodd y gymdeithas ei sefydlu gan RS Thomas a'r nod yw "gwarchod a chryfhau'r Gymraeg yn Ll欧n, gwarchod buddiannau a hybu economi Ll欧n a gwarchod yr amgylchedd yn Ll欧n".

Mae'r Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli'r ardal yn anghytuno gyda safbwynt Cyfeillion Ll欧n.

'Difrifol iawn'

Yn 么l Dafydd Elis-Thomas, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Amgylchedd yn y Cynulliad, mae angen gweld tyrbinau gwynt fel cyfle.

A dydi o ddim yn fodlon clywed mewnfudwyr yn cwyno pan mae pobl leol yn penderfynu eu codi.

"Dwi wedi dweud 'mod i wedi sylwi bod yna lawer o bobl sydd wedi symud i mewn i Gymru sydd yn mynegi barn yn gryf yn ceisio rhwystro Cymru rhag datblygu adnoddau naturiol a dwi'n meddwl fod hwnna yn beth difrifol iawn,"meddai.

"Oherwydd os ydi pobl yn symud i fyw i ardal mae'n rhaid iddyn nhw ddysgu cydweithio efo pobl yr ardal yna ac mae economi'r ardal yma yn allweddol o bwysig i bob un ohonom ni."

Bydd rhaglen Taro 9 yn cael ei dangos ar S4C am 9.30yh ddydd Mawrth.

Hefyd gan y 大象传媒