Parc gwyliau: cynghorydd eisiau ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Ynys M么n wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniad y cyngor i ganiat谩u adeiladu parc gwyliau ger Caergybi.
Ddydd Mercher mi benderfynodd y pwyllgor cynllunio i gymeradwyo'r cais gan Land & Lakes fydd yn golygu adeiladu 800 o letyau. Roedden nhw wedi gwrthod y cais y tro cyntaf.
Dyw'r penderfyniad ddim wedi plesio'r Cynghorydd Ann Griffith, is-gadeirydd y pwyllgor, ac ar y Post Cyntaf fore Iau mi oedd hi yn dweud bod angen ymchwiliad cyhoeddus.
Angen craffu
Wrth gydnabod nad oedd hi yn gwybod faint o wahaniaeth y byddai ymchwiliad fel hyn yn ei gwneud, dywedodd fod angen craffu ar y cynlluniau.
"Dw i'n meddwl bod unrhyw meicroscop ar y sefyllfa yn bwysig."
Dywedodd fod y cyngor yn "gorddibynnu" ar y cynllun i adeiladu'r parc ac yn canolbwyntio gormod ar Wylfa B.
Roedd angen "creu diwylliant gwahanol," meddai, lle byddai 'na swyddi yn cael eu creu mewn sectorau eraill.
Dywedodd nad oedd yn ffyddiog y byddai'r parc yn rhoi hwb economaidd i Gaergybi.
"Os ydy addewidion Land and Lakes yn wir, dwi'n gobeithio ar gyfer pobl Caergybi y bydd hynny yn dod.
"Ond dwi'n sgeptig ac, yn anffodus, dwi ddim wedi teimlo'r un math o frwdfrydedd 芒 phawb arall."
Er bod y Cynghorydd Nicola Roberts wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun y tro cyntaf, mae wedi newid ei meddwl.
Yr angen am waith ar yr ynys oedd y rheswm pam y pleidleisiodd hi yn wahanol ar yr ail gynnig.
Mae'r cwmni Land and Lakes wedi dweud y bydd 600 o swyddi yn cael eu creu.
"Ddeuda i gymaint 芒 hyn - efo cymaint o ddiweithdra, os cawn ni hanner be' maen nhw yn gaddo, dwi'n meddwl y bydd o yn gwneud gwahaniaeth i'r ynys ma.
Achub parc?
"Os wneith nhw gario mlaen i fod yn gyflogwr pendant, cyflogwr ma' rhywun yn medru dibynnu arno fo, dw i'n meddwl bod hynny yn bwysig i ddod 芒 rhwbath yn 么l i'r ynys hefyd."
Y bwriad ydy adeiladu parc d诺r, cyfleusterau hamdden a llety ar y safle ym mhentref Penrhos.
Dywedodd y Cynghorydd Griffith ei bod yn anfodlon y bydd y gwaith yn digwydd mewn Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, gan ddadlau nad oedd 'na ddatblygiad fel hyn erioed wedi digwydd mewn ardal o'r fath yng Nghymru a Lloegr.
Ond yn 么l y Cynghorydd Roberts, drwy adeiladu yn y pentref mi fydd y parc gwledig yn cael ei achub.
"Mae pawb yn s么n bod ni yn colli Parc Penrhos wrth wneud hyn.
"Mae arna i ofn mai achub Parc Penrhos y byddwn ni achos mi oedd y cwmni Anglesey Aluminium wedi dweud eu bod nhw'n mynd i gloi'r giatiau os nad oedd y datblygiad yma yn mynd ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012