4,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra wedi gostwng yng Nghymru yn y tri mis rhwng Gorffennaf a Medi, yn 么l ffigurau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae yna 117,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru. 7.8% o'r boblogaeth sydd o fewn oedran gwaith.
Mae hynny'n ostyngiad o 4,000 o'i gymharu 芒'r cyfnod rhwng mis Ebrill a Mehefin.
Ar draws y DU mae diweithdra wedi gostwng 48,000 i 2.47 miliwn (7.6%), y nifer lleiaf ers gwanwyn 2011.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Cymru, Edwina Hart fod y ffigyrau yn galonogol:
"Ond er gwaetha ffigyrau heddiw mae'r amgylchiadau yn parhau yn anodd. Mae ein ffocws yn parhau ar sicrhau twf economaidd a diogelu swyddi a manteisio ar bob cyfle i allforio ac i ddenu buddsoddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol