Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Grwp cymunedol yn dechrau clirio rhan o waith dur Brymbo
Ym Mrymbo mae gr诺p cymunedol sicrhaodd nawdd i greu canolfan dreftadaeth ar safle'r hen waith dur yn dechrau ar y gwaith clirio.
Bydd gweithwyr yn abseilio i lawr ffwrnais chwyth rhestredig Wilkinson er mwyn dechrau clirio coed oddi yno, a glanhau tu allan yr adeiliad.
Rhoddodd y gwaith y gorau i gynhyrchu dur yn 1980. Rwan, bwriad Gr诺p Treftadaeth Brymbo yw creu ardal dreftadaeth.
Daeth yr arian i ddiogelu a datblygu'r safle, 拢97,000 i gyd, gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy'n dweud fod yr adeiladau yn unigryw ac yn enghraifft o waith dur sy'n dyddio'n 么l i'r 18fed ganrif.
Creu canolfan i 'genedlaethau'r dyfodol'
Gobaith Gr诺p Treftadaeth Brymbo yw creu ardal dreftadaeth yn ngogledd ddwyrain Cymru ar gyfer hen ddiwydiannau ardal Wrecsam a'r cyffiniau.
Mae cynlluniau i gyflwyno teithiau tywys o amgylch safleoedd hanesyddol, a bwriad i greu llyfrgell ddigidol o 3,000 o hen luniau ar gyfer defnydd ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion.
Dywedodd Colin Davies, arweinydd y prosiect a chyn weithiwr yn y gwaith dur:
"Mi roedd mor bwysig bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu sut le oedd y pentref a'r ardal gyfagos flynyddoedd yn 么l a dwi wrth fy modd nawr y bydd stori gweithfeydd Brymbo ar gof a chadw ac yn dod 芒 chenedlaethau at ei gilydd."
Fe wnaeth y gwaith o gynhyrchu dur ddechrau yn ardal Brymbo tua 1761, pan etifeddodd John Wilkinson a'i frawd ffwrnais Y Bers gan eu tad.
Yn fuan wedyn fe wnaeth John Wilkinson brynu Neuadd Brymbo a chodi dwy ffwrnais yno - y cam cyntaf tuag at godi gwaith dur Brymbo.