Cymru a'r Ffindir: Gwersi i'w dysgu?

Disgrifiad o'r llun, Mae cynorthwydd ym mhob dosbarth mewn ysgolion canol ac uwchradd yn y Ffindir
  • Awdur, Arwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd Addysg 大象传媒 Cymru

Wedi treulio rhai dyddiau yn y Ffindir yn dysgu am eu system addysg roedd Chris Parry - yr athro o Fangor ddaeth gyda ni - a finnau yn unfrydol ein barn; ydy mae eu safonau yno yn uchel dros ben, ond mae agweddau eraill y tu hwnt i'r ysgolion yn gyfrifol am hynny.

Mae'r gymdeithas yn y Ffindir yn gwerthfawrogi ac yn gweld pwysigrwydd addysg, mewn ffordd sydd ddim yn bodoli yng Nghymru a gweddill Prydain.

Mae yna ddisgyblaeth yn yr ysgol. Bu Chris yn ystyried oedd hynny yn ganlyniad i'r ffaith fod pob dyn, rhwng 16-28 yn gorfod gwneud blwyddyn o wasanaeth cenedlaethol yn y fyddin.

Os nad ydy rhywun am wneud hynny, mi gawn nhw dreulio amser yn gwneud gwaith cymdeithasol er budd eu cymuned. Y dewis i nifer sy'n addas ydy cynorthwyo yn y dosbarth. Mae'n golygu fod gan bob dosbarth yn yr ysgolion canol ac uwchradd gynorthwyydd; os nad y bobl ifanc sy'n gwneud gwaith cymdeithasol, bydd darpar athro neu athrawes yno.

Ond wrth ddychwelyd i Gymru, roedd Milka, yr athrawes o'r Ffindir yn awyddus i weld beth oedd yn wahanol yma.

Yn anffodus, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwrthod bod yn rhan o'r gyfres yn cymharu Cymru a'r Ffindir, felly doedd dim modd i Milka drafod gyda'r Gweinidog addysg fel wnaeth Chris yn y Ffindir.

'Gwahaniaeth mawr?'

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Parry yn teimlo bod ffactorau o du allan i'r ysgol yn cyfrannu at godi safonau yn y Ffindir

Doedd Milka ddim yn gweld llawer iawn o wahaniaeth o ran y disgyblion yn Ysgol y Friars, Bangor.

Ond yn araf bach, mae'r system yng Nghymru yn mynd yn llai a llai tebyg i'r Ffindir, faswn i'n ei awgrymu.

Gyda dyfodiad y Cynulliad yn 1999, mi ddechreuodd cyfnod o newid i ysgolion Cymru. Neu yn fwy penodol, symud i ffwrdd o'r system "Cymru a Lloegr" oedd wedi bodoli cyn hynny.

Gwnaethpwyd i ffwrdd a'r profion TASau i blant 11 oed. O dan arweinyddiaeth Jane Davidson fel Gweinidog Addysg, doedd yna ddim "league tables" i'n hysgolion uwchradd chwaith.

Rhoi'r ffydd yn yr athrawon oedd y nod; gadael iddyn nhw wneud eu gwaith yn iawn. Felly y nhw oedd yn gyfrifol am asesu cynnydd y plant wrth iddyn nhw fynd drwy eu cyfnod yn yr ysgol.

Mi gyflwynwyd y Cyfnod Sylfaen, lle bo'n plant ieuengaf yn dysgu drwy chwarae. Wedi ei fenthyg o wledydd Llychlyn, y syniad ydy magu awch a chariad at ddysg yn y blynyddoedd cynnar er mwyn i ddisgyblion fwynhau mynd i'r ysgol pan fyddan nhw'n hyn.

O dan gyfundrefn o'r fath roedd Llywodraeth Cymru yn falch o frolio bod yn well gan athrawon ddysgu yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda'r holl ddiwygiadau oedd yn cyflwyno asesiadau allanol.

Dwi'n credu i hynny ddod i ben yn go ddisymwth yn dilyn canlyniadau PISA 2009 a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010.

Disgrifiad o'r llun, Yn wahanol i Gymru does dim profion allanol yn ysgolion y Ffindir

'Canlyniadau brawychus'

Efallai eich bod yn cofio Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg bryd hynny yn son am natur frawychus y canlyniadau. Doedd Cymru ddim yn wlad addysgol da yn ceisio bod yn wych, meddai, ond yn hytrach yn wlad go arferol yn ceisio bod yn dda.

O ganlyniad i hynny, roedd rhaid newid y drefn.

Fyddai Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn hyn, ond i raddau helaeth, dwi'n credu mai dychwelyd i'r drefn cyn-ddatganoledig a welwyd.

Mae'n hysgolion uwchradd bellach yn cael eu rhoi mewn "bandiau" bob blwyddyn ar sail eu perfformiad yn rhannol. Mi fyddai'r Llywodraeth yn mynnu bod agweddau eraill fel tlodi ac absenoldeb yn golygu fod bandio yn decach a mwy cywir na'r "league tables" yn Lloegr.

Wedi gwneud i ffwrdd a'r profion TASau ddegawd ynghynt, bellach mae disgyblion yn sefyll profion allanol pwysig pob blwyddyn o saith mlwydd oed.

Ac ar 么l gwrthod dilyn arweinyddiaeth Lloegr yn 2003/04 a chyflwyno fframwaith Rhifedd a Llythrennedd, bellach mae gennym ninnau fframwaith go debyg yma hefyd.

Gwraidd yr holl newidiadau ydy'r gred bod angen gallu dilyn cynnydd y disgyblion yn fanwl iawn. Dim ond o wneud hynny mae modd mynd i'r afael ac unrhyw broblemau sy'n codi gyda chyrhaeddiad y plant.

Tydyn nhw ddim wedi bod yn boblogaidd gyda rhai athrawon, ond mae'r Llywodraeth yn mynnu eu bod nhw'n hanfodol os ydan ni o ddifrif am godi'n safonau addysg.

'Cymdeithas hollol wahanol'

Disgrifiad o'r llun, Mae Huw Lewis am i fwy o athrawon gael gradd meistr

Sy'n dod a ni 'nol i'r Ffindir.

Ystyriwch am eiliad yr hyn y buon ni'n ei drafod am rinweddau addysg y wlad lwyddiannus honno.

Dim arholiadau allanol; dim arolygiadau i ysgolion; cwricwlwm reit hyblyg ac ymddiried yn yr athrawon.

Dyna oedd nod Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r mileniwm. Yn rhannol seiliedig ar y model Ffinneg.

Ond cofiwch beth arall ddysgon ni yn y Ffindir; mae'r gymdeithas yno yn hollol wahanol i Gymru.

Allwch chi ddim disgwyl i'r hyn sy'n llwyddo yno i lwyddo yma, o reidrwydd.

Felly mae yna elfen, faswn i'n ei awgrymu, o bellhau rhwng systemau Cymru a'r Ffindir.

Ond mae yna elfennau eraill yn dod yn debycach.

Un o rinweddau'r system yn y Ffindir ydy ansawdd yr athrawon. Rhaid cael gradd Feistr cyn dechrau cwrs dysgu tair blynedd.

Dyna un o flaenoriaethau'r gweinidog addysg, Huw Lewis. Mi ddywedodd o yn ddiweddar ei fod am weld athrawon yng Nghymru yn manteisio ar y gradd feistr sydd ar gael yma. A thrwy wneud hynny, mae o am godi statws y proffesiwn yng Nghymru.

Un o'r rhinweddau eraill ydy rhyddhau athrawon i wneud eu gwaith heb ymyrraeth ganolog.

Dwi ddim mor si诺r y gwelwn ni hynny yn digwydd yng Nghymru.