大象传媒

Pisa: Galw ar Carwyn Jones i 'ystyried ei sefyllfa'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mr Jones yn cydnabod fod y canlyniadau'n siomedig

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn record ei lywodraeth Lafur ym maes addysg yn wyneb beirniadaeth hallt gan y gwrthbleidiau.

Dim ond un pwnc oedd dan sylw yn ystod cwestiynau'r prif weinidog ddydd Mawrth yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Pisa.

Cafodd Mr Jones ei gyhuddo o "wneud esgusodion", o "fethu 芒 dangos arweiniad" ac o fod yn "anwybodus" gan arweinwyr y gwrthbleidiau yn ystod sesiwn swnllyd yn y Senedd.

Yn ogystal fe alwodd y gwrthbleidiau arno i "ystyried ei sefyllfa".

Fe wnaeth y prif weinidog gydnabod nad oedd y canlyniadau'n "ddigon da" ond roedd yn mynnu nad yw'r polis茂au a gafodd eu cyflwyno yn dilyn canlyniadau siomedig profion 2009 wedi cael amser i fynd i waith eto.

'Llwm iawn'

Roedd y canlyniadau Pisa yn dangos fod perfformiad Cymru o'i gymharu 芒 gwledydd eraill wedi dirywio ymhob un o'r meysydd dan sylw.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, fod hyn yn "ddigalon o wael".

"Brif weinidog, heddiw rydym wedi derbyn newyddion am y canlyniadau ac unwaith eto roedden nhw'n ddigalon o wael.

"Yn 么l yr OECD, addysg heddiw yw economi yfory ac mae'r ffigyrau heddiw'n edrych yn llwm iawn o ran dyfodol ein heconomi..."

Fe wnaeth Carwyn Jones dderbyn fod y canlyniadau yn "siomedig ar y cyfan" ond pwysleisiodd nad oedden nhw'n adlewyrchiad o'r system addysg gyflawn.

Aeth ymlaen i restru'r holl gamau mae ei lywodraeth wedi eu cymryd ers 2009 er mwyn ceisio gwella'r system addysg, gan ddweud ei fod yn dal yn nod i'r llywodraeth fod ymysg yr 20 uchaf pan fydd y profion nesaf yn cael eu cynnal yn 2015.

Aeth Mr Davies ymlaen i ddisgrifio ateb Mr Jones fel yr un "hiraf yr oedd erioed wedi ei glywed".

'Dylech ystyried eich sefyllfa'

Dywedodd: "Nid yn unig mae'r canlyniadau yma'n ddigalon o wael, maen nhw hefyd yn ddigalon o gyfarwydd.

"Mae'r system addysg wedi cael ei rhedeg gan weinidogion Llafur am 14 o flynyddoedd.

"Mae'n amser i chi roi'ch enw yn y fantol, ac os nad ydych yn fodlon gwneud hynny efallai bod yr amser wedi dod i chi ystyried eich sefyllfa."

Ymatebodd y prif weinidog drwy gyfeirio at y ffordd mai dim ond un o brif weinidogion y DU a fu mewn ysgol wladol "yn wahanol iddo fe".

Ychwanegodd: "Dyw e heb wrando ar yr hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud. Rwy'n cydnabod nad yw'r canlyniadau yma'n ddigon da ac mae'n rhaid i bethau wella.

"Mi wnes i roi cynnig iddo esbonio sut fyddai e yn gwneud pethau'n wahanol ond doedd e'n methu rhoi ateb i hynny."

'Gwaethaf yng ngorllewin Ewrop'

Fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, barhau ar yr un trywydd, gan ofyn i'r prif weinidog os oedd yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am "y set waethaf o ganlyniadau yng ngorllewin Ewrop".

Dywedodd ei fod yn derbyn bod angen gwella'r canlyniadau, ond nad oedd pethau'n berffaith yng ngweddill gwledydd y DU chwaith.

Ychwanegodd Ms Wood: "Mae oedi wedi bod yn gweithredu eich polis茂au ac mae'r oedi hyn yn golygu ein bod ni am fethu targedau 2015 eich llywodraeth.

"Ai'r achos yw y byddai'ch llywodraeth chi mewn mesurau arbennig pe bai hi'n awdurdod lleol? A pam ddylai rhieni barhau i ymddiried ynoch chi pan mae'n dod i addysg eu plant?"

Yn ei ateb cyfeiriodd Mr Jones at "welliant o ran y canlyniadau TGAU" ac at bolisi Llywodraeth Cymru o dalu cyfran o ffioedd myfyrwyr.

"Dyw e ddim yn iawn i awgrymu fod rhyw fath o argyfwng o fewn addysg yng Nghymru - mae pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn."

'Methiant truenus'

Tro Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd hi nesaf.

"Mae'r chwyddwydr nawr ar ein perfformiad addysg yn rhyngwladol ac mae methiant truenus eich polis茂au addysg yno i bawb ei weld," meddai.

"Fel rhywun sydd wedi bod yn Aelod Cynulliad am 14 blynedd ac aelod o'r cabinet ers 13, dydych chi ddim yn teimlo cywilydd?"

"Na," oedd ateb Carwyn Jones.

Yn hwyrach fe ofynnodd Aled Roberts, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, gwestiwn brys i'r Gweinidog Addysg Huw Lewis, eto ar ganlyniadau Pisa.

Dywedodd Mr Lewis fod angen i "bawb sydd yn gweithio o fewn ac o amgylch y system addysg edrych ar eu hunain yn y drych".

Cadarnhaodd hefyd na fyddai'r llywodraeth yn newid y targed o fod ymysg y 20 uchaf ymhob maes pan fydd y canlyniadau Pisa nesaf yn cael eu cyhoeddi yn 2016.