Blwyddyn o rygbi a ph锚l-droed

Bu'n flwyddyn i'w chofio i'r Cymry ar y meysydd chwarae... cymaint felly fel bod gohebydd chwaraeon 大象传媒 Cymru Iwan Griffiths wedi rhannu ei adolygiad o'r flwyddyn yn ddwy ran.

Dyma'r rhan gyntaf, sy'n canolbwyntio ar lwyddiannau'r Cymry ar gaeau rygbi a ph锚l-droed y byd yn ystod 2013.

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Ar 么l dechrau simsan, Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Lloegr

Colli'r wythfed g锚m yn olynol. Dyna sut ddechreuodd y flwyddyn i d卯m Rygbi Cymru, gyda'r golled i'r Gwyddelod yn creu'r rhediad gwaetha' o gemau mewn degawd.

Pwy bryd hynny fyddai wedi rhagweld y byddai'r union d卯m hwnnw, cwta fis yn ddiweddarach yn codi tlws Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad am yr ail flwyddyn yn olynol? Melysach fyth oedd gwneud hynny drwy roi crasfa i Loegr.

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, George North oedd un o Lewod Cymru oedd yn dathlu

Ychydig o syndod wedi'r perfformiad graenus hwnnw ym mis Mawrth oedd gweld pymtheg Cymro ymhlith Llewod Warren Gatland.

Roedd deg o'r Cymry hynny yn y t卯m gipiodd y gyfres yn y prawf olaf tyngedfennol yn Sydney - ond dim lle i Brian O'Driscoll! Do cafodd y penderfyniad hwnnw ei feirniadu, ond wedi llwyddiant, fe ddaeth clod, a chydnabyddiaeth mewn tair seremoni nodedig mai Warren Gatland oedd Hyfforddwr gorau'r flwyddyn.

Tra bod y Llewod yn rhuo, ychydig iawn o d芒n ddoth o enau'r ddraig mas yn Siapan. Er i d卯m o Gymry ifanc grafu trwy'r prawf cyntaf, roedd colli'r ail yn embaras.

Roedd y bois dan ugain oed yn creu argraff yn y cyfamser, ond er cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd, y Saeson ifanc aeth 芒 hi.

Dan gysgod y siom hwnnw, y mae'r rhanbarthau hefyd yn gorwedd eleni. Doedd 'na ddim cynrychiolaeth yn chwarteri Cwpan Heineken, a'r Scarlets wrth orffen yn bedwerydd oedd orau yn y Pro12.

Dychwelyd 'naeth s锚r y Llewod i'r garfan genedlaethol, ond ennill dwy a cholli dwy oedd hanes yr Hydref, ac mae colli 22 mas o 23 i fawrion hemisffer y de yn ystadegyn anffodus.

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu dyrchafiad 'r Uwchgynghrair

笔锚濒-诲谤辞别诲

Os yw'r erthygl yn dechrau diflasu, beth am droi at y p锚l-droedwyr i godi'r galon?

Am y tro cyntaf ers tymor 1961/1962, roedd Caerdydd yn n么l yn y brif adran. Ond rhaid oedd newid lliw cyn cael llwyddiant.

Yn eu hail dymor yn yr Uwch Gynghrair, mwynhau taith fws awyr agored arall drwy strydoedd Abertawe naeth yr Elyrch. Nid am orffen yn nawfed yn y tabl, ond am gipio Cwpan y Gynghrair, a chyda hynny, sicrhau lle yn Ewrop.

Roedd 'na brynhawn Cymreig yn Wembley! A sicrwydd y byddai un t卯m yn dianc o'r Gyngres. Ar 么l chwarter canrif yn y diffeithwch, Casnewydd sydd bellach yn chwarae yn y Gynghrair B锚l-droed diolch i ddwy g么l hwyr yn y g锚m ail gyfle.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Andy Morrell, rheolwr-chwaraewr Wrecsam, yn dangos ei orfoledd o ennill Tlws FA Lloegr

Yn anffodus i'r cefnogwyr yng ngogledd y wlad, Wrecsam ildiodd y ddwy g么l hwyr. Gyda thymor arall yn Uwch Gynghrair Skrill o'u blaenau felly, rhaid oedd cymryd cysur yn y tlws oedd eisoes yng nghabinet y Cae Ras.

Ar ymweliad cyntaf y clwb a Wembley, fe adawodd Wrecsam gyda Thlws FA Lloegr yn eu meddiant.

Er yr amheuaeth ar un cyfnod, Chris Coleman yw'r rheolwr Cenedlaethol o hyd, er bod ei dim mor bell ag erioed o gyrraedd Cwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr Casnewydd fu'n dathlu dyrchafiad yn Wembley

Os mai tlawd oedd ymgyrch t卯m Cymru, nid felly cyfrif banc Bale, Brenin y Bernebeu, a chwaraewr dryta'r byd. Hyd yma mae'r dewin 'di dangos ei barodrwydd i ddychwelyd o grafangau Real Madrid i chwarae dros ei wlad.

A gydag Aaron Ramsey'n tanio dros y Gunners, pwy a 诺yr beth allai'r ddau neud ar y cyd mewn crys coch.

Yn anffodus, rhaid dychwelyd cyn cloi at wleidyddiaeth y ddwy gamp.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gareth Bale ei gyflwyno i gefnogwyr Real Madrid fel p锚l-droediwr dryta'r byd

Ydy, mae'n ymddangos na fydd pontydd Hafren na'r Fenai gyda'i gilydd yn croesi'r bwlch sy'n gwahanu'r rhanbarthau rygbi a'r Undeb.

Arian a ph诺er sy'n sail i'r dadlau, gyda chwaraewyr rhyngwladol yn eu niferoedd yn gadael i chwarae naill ai'n Lloegr neu'n Ffrainc yn rhan sylweddol o'r broblem.

Heb ddiwedd o fewn golwg i'r anghydfod, fyddai angen nofel, nid erthygl i fanylu'n rhagor ar y pwnc yma.

A rhaid cloi gyda Malky. Mae cefnogwyr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd wedi derbyn anrheg Nadolig cynnar gan Vincent Tan. Na, posib na fydd y perchennog a'r rheolwr yn cyfnewid cardiau Nadolig, ond rhyddhad i'r Adar Gleision fod Mackay yn cael aros... am y tro.