2013: Mwy o bwerau i Fae Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth San Steffan wedi addo mwy o bwerau i'r Senedd yng Nghaerdydd

Beth fyddai prif weinidog Cymru wedi hoffi ei weld dan y goeden bore Nadolig?

Fel arfer, mae gwleidyddion eisiau mwy o b诺er. Wel, mae'n rhaid bod Carwyn Jones wedi bod yn fachgen da eleni.

Mae David Cameron a Nick Clegg wedi addo pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru - rhywbeth mae Mr Jones wedi galw amdano.

Ond beth yw hwn? Darn o lo yng ngwaelod hosan Mr Jones?

Mae yna bosibilrwydd o refferendwm i ddatganoli pwerau dros dreth incwm hefyd - rhywbeth nad yw'r blaid Lafur yn awyddus i'w weld ar hyn o bryd.

"Y peth diwethaf byddwn i am ddweud wrth bobl Cymru yw dyle ni gael pwerau dros newid trethi incwm os nad yw'r grant sy'n dod o San Steffan wedi cael ei ystyried mewn ffordd sy'n deg i Gymru."

Mae'r glymblaid yn San Steffan am roi mwy o gyfrifoldeb i Fae Caerdydd.

Mae'n ymddangos i mi mai cyfrifoldeb oedd thema fawr y cynulliad yn 2013.

Erbyn hyn, mae Mr Jones a'i lywodraeth yn gyfrifol am faes awyr Caerdydd, ar 么l gwario mwy na 拢50 miliwn i'w brynu yn y gwanwyn.

Isetholiad

Draw yn y gogledd, mae aelod newydd yn cynrychioli Ynys M么n. Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth ennill buddugoliaeth ysgubol i Blaid Cymru yn isetholiad yr ynys fis Awst.

Trwy'r flwyddyn, mae dadlau dwys wedi bod yngl欧n 芒 phwy ddylai fod yn gyfrifol am ein horganau ar 么l marw. Teulu? Ffrindiau? Y wladwriaeth efallai? Eleni fe wnaeth y cynulliad basio deddf i newid y drefn o roi organau.

Mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford eisiau'r trafod i barhau.

"Yn y diwedd mae'n bwysig dros ben i deuluoedd wybod beth yw barn gydag unrhyw berson sydd mewn sefyllfa lle mae rhoi organau yn gallu digwydd felly mae'r dadlau yn parhau ac mae'r drafodaeth yn parhau hefyd. "

Mae Mr Drakeford wedi bod yn brysur iawn. Gwelwyd protestiadau ffyrnig ym mhob cwr o Gymru yn erbyn ad-drefnu ysbytai.

Yn y Rhondda, un o gadarnleoedd y Blaid Lafur, ymunodd yr aelod cynulliad lleol Leighton Andrews 芒'r brotest.

Roedd e'n weinidog addysg ar y pryd. Ond daliwch 'mlaen, meddai'r wrthblaid, eich llywodraeth chi sy'n gyfrifol am yr ad-drefnu.

Canlyniadau

Rhai wythnosau'n ddiweddarach, bu rhaid i Mr Andrews ddewis rhwng ei etholaeth a pholisi'r llywodraeth - y tro hwn ysgolion oedd yn gyfrifol.

Roedd e'n anfodlon 芒 chynllun i gau Ysgol Gynradd Pentre. Cyngor Rhondda Cynon Taf fu'n gyfrifol am hynny, ond dim ond achos bod nhw'n dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth.

Ymddiswyddiad Mr Andrews o'r cabinet oedd sioc fwyaf y flwyddyn ym Mae Caerdydd.

O ganlyniad, nid fe ond gweinidog addysg newydd, Huw Lewis, fu'n ymateb i ganlyniadau siomedig Pisa'r mis hwn.

Unwaith eto, fe lithrodd Cymru lawr y cynghrair rhyngwladol.

Pwy sy'n gyfrifol am y methiant?

Wrth ymgyrchu yn ystod yr etholiad diwethaf, fe wnaeth Carwyn Jones addo cyflawni mwy. Yn Saesneg, "delivery", oedd y slogan.

Mae cyfrifoldebau'r cynulliad yn tyfu. Cawn weld os fydd hynny'n gwneud hi'n haws i Mr Jones gyflawn neu yn gosod mwy ar ei bl芒t.