大象传媒

Cyfle i ganu gyda Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
Bryn Terfel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Bryn Terfel ddim wedi perfformio yn yr 诺yl ers 2006

Mi fydd clyweliadau yn cael eu cynnal er mwyn darganfod canwr ifanc i berfformio gyda Bryn Terfel yng Ng诺yl Rhyngwladol Llangollen.

Y gobaith ydy dod o hyd i fachgen ifanc i chwarae rhan Tobias Ragg yn sioe gerdd Sweeney Todd. Dyma'r sioe sydd yn agor yr 诺yl eleni.

Bydd clyweliadau yn digwydd ym mis Chwefror yng Nghaerdydd ac yn Llangollen.

Yn ogystal, mae Cyfarwyddwr Cerddorol yr 诺yl, Eilir Owen Griffiths yn chwilio am ddau berson ar gyfer cymeriadau eraill.

"Yn ogystal 芒 Toby ifanc, rydyn ni yn chwilio am ddau berson rhwng 18-25 oed i chwarae r么l Anthony Hope a Johanna Baker, y ddau gariad yn y cynhyrchiad yma.

"Rhywle allan yn fan'a mae 'na fachgen ifanc sydd ddim yn ymwybodol eto, ond mi fydd o mewn ychydig fisoedd yn canu ar y llwyfan gyda Bryn Terfel a hynny mewn pafiliwn llawn dop."

"Mae gyda ni gast o Gymru, sydd yn cael ei arwain gan Bryn a nawr mi ydyn ni yn cynnal clyweliadau ar gyfer y tair r么l allweddol yma. Mi wnaeth Star Wars hyn ac os oedd hynny yn ddigon da i George Lucas, wel mae e yn ddigon da i ni hefyd."

Gwaddol

Stori wedi ei selio yn Llundain yn y 19eg ganrif yw 'Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street'. Cafodd y sioe ei pherfformio gyntaf yn 1979 ac ers hynny mae wedi ymddangos ar lwyfannau ar draws y byd.

Mae Bryn Terfel wedi chwarae'r r么l o'r blaen yn 2002 a dyma'r tro cyntaf iddo berfformio yn yr 诺yl ryngwladol ers 2006.

Yn 么l Eilir Owen Griffiths mae hwn yn gyfle da i'r bobl ifanc.

"Mae'n wych cael Bryn yn 么l eto eleni a dyna chi brofiad i'r rhai fydd yn dod i'r clyweliadau i gael bod ar y llwyfan gydag e.

"Dw i'n teimlo bod gan yr eisteddfod ddyletswydd i annog talent ifanc yng Nghymru a dyna i chi gyfle ar gyfer rhai ifanc sydd ar ddechrau ei gyrfa, efallai nad ydy pobl wedi clywed dim amdanyn nhw, i ddod a serennu yn y cynhyrchiad yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol