大象传媒

Cynlluniau ar gyfer 'coridor' peilonau

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer wedi bod yn anfodlon ar y cynlluniau

Mae cwmni Western Power Distribution wedi cyhoeddi pa "goridor" y maen nhw'n ei ffafrio er mwyn cludo trydan rhwng dwy fferm wynt newydd ym Mrechfa yn Sir Gaerfyrddin a'r Grid Cenedlaethol.

Eisoes mae'r ddwy fferm wynt wedi cael caniat芒d cynllunio yn ardal Brechfa, un yn Nwyrain Coedwig Brechfa a'r llall yn y gorllewin.

Fe fydd y polion pren yn ymestyn o Fferm Wynt Dwyrain Brechfa i'r gorllewin ar hyd yr A485 tuag at Gaerfyrddin.

Mae nifer wedi bod yn anfodlon ar y cynlluniau gan y byddai'r polion dwbl yn 18 medr o uchder.

Barn Cyngor Sir G芒r yw y dylai'r ceblau gael eu claddu dan y ddaear gan y byddai hynny'n lleihau'r effaith weledol.

Bydd gan y trigolion lleol gyfle i ddweud eu barn dros yr wythnosau nesaf.

'Llwybrau'

Dywedodd Andrew Hubbold o'r cwmni: "Gan ein bod ni wedi dewis y 'coridor' rydym yn ei ffafrio y cam nesaf fydd darganfod y 'llwybrau' mwyaf addas drwy'r coridor.

"Fe wnawn ni wedyn fynd 芒'r cynigion i'r bobl leol fel eu bod nhw'n cael cyfle i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn ystod yr ymgynghoriad.

"Bydd eu barn nhw'n ein helpu i ddatblygu'n cynlluniau."

Wedyn bydd ymgynghoriad arall ym Medi 2014 a'r cwmni'n cyflwyno'u cynlluniau i'r Arolygiaeth Gynllunio cyn diwedd 2014.

Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Rhodri Glyn Thomas wedi dweud: "Y peth pwysig yw bod y cysylltiadau hyn o dan y ddaear.

"Dyna'n amlwg mae pobl eisiau ei weld yn digwydd.

"Rhaid i'r cwmniau a'r llywodraeth ddeall nad buddsoddi mewn egni adnewyddol yn unig maen nhw ond mewn cymunedau hefyd ac maen rhaid iddyn nhw barchu'r cymunedau."